Thorstein Veblen
Thorstein Veblen | |
---|---|
Ganwyd | 30 Gorffennaf 1857 Cato |
Bu farw | 3 Awst 1929 Menlo Park |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Norwy |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | economegydd, cymdeithasegydd, llenor, athro cadeiriol |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Dosbarth hamddenol |
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd America |
Perthnasau | Oswald Veblen |
Gwobr/au | Gwobr John Addison Porter |
llofnod | |
Economegydd a chymdeithasegydd o'r Unol Daleithiau oedd Thorstein Bunde Veblen (30 Gorffennaf 1857 – 3 Awst 1929) sydd yn fwyaf nodedig am ei lyfr The Theory of the Leisure Class (1899).
Bywyd cynnar ac addysg (1857–96)
[golygu | golygu cod]Ganed Thorstein Bunde Veblen ar 30 Gorffennaf 1857 yn Cato, Swydd Manitowoc, Wisconsin, i fewnfudwyr Norwyaidd. Ei famiaith oedd y Norwyeg, a ni ddysgodd yr iaith Saesneg nes iddo fynychu'r ysgol, a bu'n siarad honno gydag acen amlwg trwy gydol ei oes.[1] Cafodd Thorstein a'i 11 o frodyr a chwiorydd eu magu ar fferm y teulu yn Nerstrand, Minnesota.
Graddiodd Veblen o Goleg Carleton yn Northfield, Minnesota, ym 1880. Wrth ei astudiaethau, datblygodd feddylfryd unigolyddol ac eiconoclastig tuag at wyddorau cymdeithas. Astudiodd athroniaeth ym Mhrifysgol Johns Hopkins a Phrifysgol Yale, ac o Yale derbyniodd ei ddoethuriaeth ym 1884. Er iddo disgleirio fel myfyriwr a derbyn cymeradwyaethau oddi ar ei athrawon, methodd i gael swydd yn y brifysgol wedi iddo raddio o Yale. Dychwelodd i fferm ei dad ym Minnesota, ac yno treuliodd saith mlynedd yn ddi-waith ac yn darllen ac astudio ar ben ei hun. Ym 1888, priododd ag Ellen Rolfe, merch o deulu cefnog a dylanwadol a nith i lywydd Coleg Carleton, ond ni lwyddodd Veblen ganfod swydd.
Aeth Veblen i Brifysgol Cornell ym 1891 i astudio economeg dan diwtoriaeth yr Athro J. Laurence Laughlin. Cafodd gymaint o argraff ar Laughlin ag iddo gynnig cymrodoriaeth i Veblen pan gafodd ei benodi yn bennaeth ar gyfadran economeg Prifysgol Chicago ym 1892. Symudodd Veblen i Chicago felly i gyflawni ei astudiaethau ôl-raddedig mewn economeg.
Gyrfa academaidd (1896–1918)
[golygu | golygu cod]Penodwyd Veblen yn hyfforddwr o'r diwedd, gan Brifysgol Chicago, ym 1896. Er gwaethaf ei syniadaeth wreiddiol a'i feistrolaeth ar ei bwnc, ni enynnodd hoffter ei ddisgyblion nac ei gyflogwyr oherwydd ei ymddygiad a'i agwedd at ei ddyletswyddau academaidd. Cyhuddwyd Veblen o fod yn athro di-hid a'i wersi o fod yn ofnadwy o ddiflas, ac yn aml fe wnaeth ddiystyru canllawiau'r brifysgol ynghylch strwythur ei ddarlithoedd ac arholiadau. Roedd ei brif gwrs, "Economic Factors in Civilization", yn drosolwg amrywiol o hanes, y gyfraith, anthropoleg, ac athroniaeth, ond heb fawr o sylw at ddamcaniaethau economaidd traddodiadol, ac felly yn groes i ddisgwyliadau'r mwyafrif o'i gyd-athrawon yn y gyfadran economeg. Derbyniodd enw drwg hefyd am garwriaethau y tu allan i'w briodas.
Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, The Theory of the Leisure Class, ym 1899. Dyma gwaith mwyaf ddylanwadol Veblen, a ddarllenir gan fyfyrwyr gwyddorau cymdeithas hyd heddiw. Yn y gyfrol, cymhwysa'r awdur esblygiadaeth Darwinaidd at astudiaethau bywyd economaidd modern. Cyferbynna'r drefn ddiwydiannol a'i gweithwyr effeithlon a chydweithredol â byd busnes sydd yn hel arian ac yn amlygu cyfoeth. Archwilia Veblen arferion a diddordebau'r "dosbarth hamddenol" sydd yn gwneud sioe o'u gwariannau yn ac ymhyfrydu yn eu statws elît. Yn ei ail lyfr, The Theory of Business Enterprise (1904), ymhelaetha ar ei syniadaeth esblygiadol ac yn enwedig ar bwnc y broses ddiwydiannol fodern sydd, yn ôl Veblen, yn anghydnaws â moddion y dynion busnes a'r arianwyr. Ceisia Veblen dynnu sylw yn ei ysgrifeniadau at y wahaniaeth rhwng cynhyrchu nwyddau a chynhyrchu arian yn yr economi gyfalafol.
Derbyniodd Veblen glod am The Theory of the Leisure Class oddi wrth ddarllenwyr a oedd yn ei ystyried yn gyfrol ddychanol yn hytrach na thraethawd academaidd. Enillodd enw felly ymhlith gwŷr llên y cyfnod fel beirniad cymdeithasol craff, ond ni wellodd ei sefyllfa yn y byd academaidd. Wedi deng mlynedd yng nghyfadran economeg Prifysgol Chicago, esgynnodd i swydd isddarlithydd cyn iddo orfod adael am fod yn anffyddlon i'w wraig. Penodwyd yn ddarlithydd cyswllt gan Brifysgol Stanford yng Nghaliffornia ym 1906, ond eto bu'n rhaid iddo ymddiswyddo oherwydd ei fercheta, ym 1909.[1]
O'r diwedd daeth Veblen o hyd i swydd academaidd arall, yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Missouri, ym 1911, a bu'n addysgu yno am saith mlynedd. Ym 1911 hefyd cafodd Veblen ysgariad oddi wrth Ellen Rolfe, ac ym 1914 priododd â'i ail wraig Anne Fessenden Bradley. Roedd ganddi ddwy ferch o briodas gynt, a chawsant eu magu yn ôl syniadau iwtilitaraidd eu llystad.[1] Er iddo drosglwyddo i sefydliad is ei statws am swydd is ei thâl, cafodd Veblen gyfnod toreithiog ym Missouri. Dychwelodd at bwnc trafferthion a methiannau byd busnes yn ei lyfr The Instinct of Workmanship and the State of the Industrial Arts (1914), sydd yn rhoi'r bai ar sefydliadau aneffeithlon am wastraffu egnïon y ddynolryw. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, aeth i'r afael â bywyd economaidd Ewrop yn Imperial Germany and the Industrial Revolution (1915) ac achosion economaidd rhyfel yn An Inquiry into the Nature of Peace and the Terms of Its Perpetuation (1917).
Diwedd ei oes (1918–26)
[golygu | golygu cod]Aeth Veblen i Washington, D.C. yn Chwefror 1918 i gymryd swydd yn y Weinyddiaeth Fwyd, yr asiantaeth a oedd yn darparu bwyd i Fyddin yr Unol Daleithiau a'i chynghreiriaid y Rhyfel Byd Cyntaf. Unwaith eto, bu gwrthdaro rhyngddo â'i gyfoedion oherwydd ei syniadau anuniongred, a bu yn y swydd am ychydig fisoedd yn unig. Yn nhymor yr hydref 1918, ymunodd Veblen â golygyddion The Dial, cylchgrawn llenyddol a gwleidyddol yn Efrog Newydd. Ysgrifennodd gyfres o erthyglau dan y teitl "The Modern Point of View and the New Order", a gesglid yn y gyfrol The Vested Interests and the Common Man (1919). Cyhoeddwyd casgliad arall o'i erthyglau yn The Dial, ar bwnc diwygio'r drefn economaidd dan gyfarwyddiaeth peirianwyr, The Engineers and the Price System (1921).
Gadawodd Veblen The Dial ar ôl blwyddyn gyda'r tîm golygyddol. Tua'r cyfnod hwn, cafodd ei wraig Anne lewyg nerfol a bu farw hi ym 1920. Cafodd hyn effaith ar alluoedd cymdeithasol ei gŵr gweddw, a bu'n rhaid i gyfeillion agos Veblen edrych ar ei ôl i raddau.[1] Am gyfnod dychwelodd Veblen at ddarlithio, yn y New School for Social Research yn Efrog Newydd. Cyhoeddodd ei lyfr olaf, Absentee Ownership and Business Enterprise in Recent Times, ym 1923.
Rhoes Veblen y gorau i'w waith yn y New School ym 1926 a dychwelodd i Galiffornia. Yno, bu'n byw gydag un o'i lysferched ar gyrion Menlo Park, ger ei hen gyflogwr Prifysgol Stanford, mewn caban yn y mynyddoedd gyda threm ar y lli. Bu farw yno ar 3 Awst 1929 yn 72 oed.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- The Theory of the Leisure Class: An Economic Study of Institutions (1899).
- The Theory of Business Enterprise (1904).
- The Instinct of Workmanship and the State of the Industrial Arts (1914).
- Imperial Germany and the Industrial Revolution (1915).
- An Inquiry into the Nature of Peace and the Terms of Its Perpetuation (1917).
- The Higher Learning In America: A Memorandum On the Conduct of Universities By Business Men (1918).
- The Place of Science in Modern Civilisation and Other Essays (1919).
- The Vested Interests and the Common Man (1919).
- The Engineers and the Price System (1921).
- Absentee Ownership and Business Enterprise in Recent Times: The Case of America (1923).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 (Saesneg) Thorstein Veblen. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Hydref 2020.
- Genedigaethau 1857
- Marwolaethau 1929
- Academyddion y 19eg ganrif o'r Unol Daleithiau
- Academyddion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Academyddion Prifysgol Chicago
- Academyddion Prifysgol Stanford
- Cymdeithasegwyr o'r Unol Daleithiau
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Johns Hopkins
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Yale
- Economegwyr y 19eg ganrif o'r Unol Daleithiau
- Economegwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Pobl a aned yn Wisconsin
- Pobl o Minnesota
- Pobl fu farw yng Nghaliffornia
- Pobl Norwyeg o'r Unol Daleithiau
- Pobl o'r Unol Daleithiau o dras Norwyaidd
- Ysgolheigion Saesneg o'r Unol Daleithiau