Neidio i'r cynnwys

Sherpa

Oddi ar Wicipedia
Sherpa
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
Poblogaeth520 Edit this on Wikidata
CrefyddBwdhaeth dibetaidd edit this on wikidata
GwladwriaethNepal, Gweriniaeth Pobl Tsieina, India, Bhwtan Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r Sherpa yn grŵp ethnig o un o rannau uchaf a mwyaf mynyddig Nepal, yn byw yn uchel yn yr Himalaya. Mewn Tibeteg, mae shar yn golygu "Dwyrain" a pa yn dynodi "pobl". Mewnfudodd y Sherpa i Nepal o ddwyrain Tibet o fewn y 500 mlynedd diwethaf.

Mae'r rhan fwyaf o'r Sherpa yn byw yn nwyrain Nepal: yn Solu, Khumbu a Pharak, er bod rhai yn byw ymhellach i'r gorllewin yn nyffryn Rolwaling ac yn ardal Helambu i'r gogledd o Kathmandu. Pangboche yw pentref hynaf y Sherpa yn Nepal. Mae iaith yn Sherpa yn bur debyg i dafodiaith o'r iaith Dibeteg. Yn ôl canlyniad Cyfrifiad 2001 yn Nepal, roedd 154,622 o'r Sherpa yn y wlad, 92.83% yn ddilynwyr Bwdhaeth, 6.26% yn ddilynwyr Hindwaeth, 0.63% yn Gristionogion a 0.20% yn ddilynwyr crefydd Bön.

Rhai o grwpiau ethnig Nepal;
Bhotia, Sherpa, Thakali
Gurung
Kiranti, Rai, Limbu
Newari
Pahari
Tamang

Yn draddodiadol, mae llawer o enwau'r dynion ymysg y Sherpa yn dod o'r diwrnod o'r wythnos pan aned hwy:

Dyddiau'r Wythnos yn Sherpa
Cymraeg Sherpa
Dydd Sul Ngi`ma
Dydd Llun Dawa
Dydd Mawrth Mingma
Dydd Mercher Lhakpa
Dydd Iau Phurba
Dydd Gwener Pasang
Dydd Sadwrn Pemba
Sherpa o Nepal.

Daeth y Sherpa i enwogrwydd yn gynnar yn hanes mynydda yn yr Himalaya. Credir fod eu hysgyfaint yn eu galluogi i berfformio'n well yn uchel yn y mynyddoedd na grwpiau eraill. Defnyddir y term 'sherpa' (gyda s bach) hefyd i ddynodi pobl leol a gyflogir i gynorthwyo mynyddwyr yn yr Himalyaya. Nid yw sherpa yn yr ystyr yma o anghenraid yn aelod o grŵp ethnig y Sherpa.

Y Sherpa enwocaf oedd Tenzing Norgay, a ddringodd Everest gyda Edmund Hillary am y tro cyntaf yn 1953. Yn ddiweddar, mae dau Sherpa, Pemba Dorjie a Lhakpa Gelu, wedi bod yn cystadlu i weld pwy allai ddringo Everest gyflymaf. Ar 23 Mai 2003 cyrhaeddodd Dorjie y copa mewn 12 awr a 46 munud. Tri diwrnod yn ddiweddarach, gwnaeth Gelu yr un peth mewn 10 awr 46 munud. Ar 21 Mai 2004 cyrhaeddodd Dorjie y copa mewn 8 awr a 10 munud. Ar 19 Mai 2006, dringodd Appa Sherpa Everest am yr 16eg tro, y nifer mwyaf gan un person.