Roedd Temnikova (ganed 18 Ebrill 1985, Kurgan, Rwsia) yn cystadlu ar sioe Rwsaidd Star Factory yn 2003 ac arwyddodd gytundeb i ymuno â label Maxim Fadeev. Mae hi wedi rhyddhau dwy sengl "Беги" (Begi, Cym: Rhedeg) a "Тайна" (Taina, Cym: Dirgelwch) ond penderfynodd ymuno â'r band newydd Serebro.[1][2]
Astudiodd Seryabkina (ganed 12 Ebrill 1985, Moscow, Rwsia) bale pan oedd hi'n saith oed. Graddiodd Seryabkina yn ysgol celf, adran canu pop, ac yn 2006 cafodd dystysgrif "cyfieithiad ac entrepreneurship". Cafodd wahoddiad oddi wrth Temnikova i ymuno â Serebro.[3]
Mynychodd Karpova (ganed 2 Tachwedd 1984, Balakovo, Rwsia) gwersi canu ar ôl treuliodd hi llawer o'i hamser fel plentyn yn dawnsio bale. Ymunodd Karpova y grŵp yn 2009.
2009-presennol
Cyn aelodau:
Marina Lizorkina
Dechreuodd Lizorkina (ganwyd 9 Mehefin 1983, Moscow, Rwsia) astudio ym Mhrifysgol Celf Gyfoes ym Moscow pan oedd yn 16 oed. Roedd hi'n aelod o'r gôr ac yn brif gantores o'r band "Formula". Ymunodd Lizorkina â Serebro ar ôl iddi weld hysbyseb ar y we.[4][5] Gadawodd y grŵp ar y 18 o Fehefin 2009 o achos resymau ariannol a phersonnal.
Roedd y sianel Rwsaidd Channel One yn gyfrifol am ddewis cynrychiolydd Rwsia ac roedden nhw wedi dewis y band Serebro, a oedd yn anhysbys i'r mwyafrif o'r cyhoedd.
Ar y 12fed o Fai 2007 perfformiodd Serebro yn safle 15 y rownd derfynol. Cafodd Serebro 12 pwynt oddi wrth Armenia, Belarws, ac Estonia a 10 pwyntiau oddi wrth Wcráin. Gorffenon nhw'n drydydd gyda 207 pwyntiau.