Santes Gwawr
Santes Gwawr | |
---|---|
Ganwyd | 4 g Teyrnas Brycheiniog |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Tad | Brychan |
Mam | Prawst |
Priod | Elidir Lydanwyn |
Plant | Llywarch Hen |
Santes o'r 6g oedd Gwawr, ac un o 24 o ferched y brenin Brychan o Geredigion a Prawst verch Tudwal, ei mam. Mae'n bosib y cyfeiriwyd ati gyda'r enwau canlynol, hefyd: "Goddeu", "Saint Gwrygon" a "Gwrugon".[1]
Dywedir iddi briodi Elidir Lydanwyn ap Meirchion (Elidir "gul" Lydanwyn Ap Meirchion), Brenin Rheged ac iddynt gael dau o blant: Helydd verch Elidir a Llywarch Hen ab Elidir, aelod o deulu brenhinol Rheged yn yr Hen Ogledd a bardd. Ceir cofnod iddi gael ei geni ym Manaw Gododdin (yn yr Alban erbyn hyn), ond mae'n fwy na theby mai symud yno a wnaeth.
Roedd ganddi nifer o chwiorydd, neu hanner-chwiorydd, gan gynnwys: Arianwen, Rhiangar, Gwladys, Gwrgon, Nefydd, Lleian, Marchell, Meleri, Nefyn, Tutglid, Belyau, Ceinwen, Cynheiddon, Ceindrych, Clydai, Dwynwen, Eiluned, Goleudydd, Gwen, Ilud, Tybïe, Tudful, a Tangwystl.
Eglwys
[golygu | golygu cod]Cysegrwyd eglwys y plwyf, Llangywer, ger y Bala, Gwynedd, i'w chwaer Cywair. Ychydig iawn sy'n hysbys am Cywair a Gwawr, ond credir bod llun o cywair ohoni yn ymddangos yn ffenestr ddwyreiniol gwydr lliw yr eglwys. Yn ôl Cadw, fodd bynnag, yr hen enw ar yr eglwys oedd "Eglwys Santes Gwawr".[2][3]
Ceir hefyd 'Nant Gwawr' ger Aberaman, ond ni wydys a oes cysylltiad â'r santes a cheir merch arall o tua'r un cyfnod (g. 435) o'r enw Gwawr ferch Ceredig sydd hefyd yn sant.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Santesau Celtaidd 388-680
- Gwawr Edwards - soprano
- Llangywer
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ www.library.wales; A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 gan Peter Clement Bartrum; adalwyd 14 Medi 2019.
- ↑ [https://web.archive.org/web/20150913104016/http://www.eryri-npa.gov.uk/cym/visiting/walking/Moderate-Leisure-Walks/llyn-tegid-southern-section Archifwyd 2015-09-13 yn y Peiriant Wayback gwefan Parc Cenedlaethol Eryri]; adalwyd Medi 2014
- ↑ gwefan waymarking.com; adalwyd 14 Medi 2019