Santes Eiluned
Santes Eiluned | |
---|---|
Ffenestr yn darlunio Eluned, yng Nghadeirlan Aberhonddu | |
Ganwyd | 5 g Teyrnas Brycheiniog |
Bu farw | o pendoriad |
Man preswyl | Aberhonddu |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Dydd gŵyl | 1 Awst |
Tad | Brychan |
- Gweler hefyd: Santesau Celtaidd 388-680
Santes oedd Eiluned neu Eluned un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog. Ei gwylmabsant yw 1 Awst.
Mae nifer o amrywiaethau o'i henw: Eiliueth (o'r Cognatio) Elvetha (Lladin) ac Almedha (Sacsoneg) yn arwain at Eiluned, Elwedd ac Aled mewn Cymraeg cyfoes, ond maent i gyd yn cyfeirio at yr un ddynes.[1][2] 'Eiluned' yw'r sillafiad a ddefnyddiai Lewis Glyn Cothi yn ei gerddi (Gwaith, 1837 t.88) a chytunai Ifor Williams gyda hyn (gweler LBS II.419 n.1.). 'Aelivedha' yw enw Gerallt Gymro arni.
Eiluned ac Aberhonddu
[golygu | golygu cod]Fel un o ferched Brychan Brycheiniog,[1] oedd yn etifeddu tir roedd Eiluned yn tynnu sylw fel priodferch posibl. Roedd pennaeth llwyth cyfagos yn dymuno'i phriodi a bu raid iddi ddianc rhagddo gan y ceisiai ei gorfodi hi i'w briodi.
Cysylltir Eiluned yn bennaf gyda thref Aberhonddu. Adeiladwyd y gadeirlan Normanaidd sy'n dwyn yr enw Sant Ioan yr Efengylydd, ar safle hen eglwys Celtaidd[3] ar fryn uwchben y dref. Yn ymyl mae'r ffynnon a elwir 'Ffynnon y Priordy', heddiw. Mae'n debyg fod y ffynnon hon a'r llan gwreiddiol wedi'u henwi ôl Eiluned. Sefydlodd Eiluned ddwy llan arall: un yn Llaneleu, tair milltir o Garth Madryn. Heddiw mae'r eglwys yn dwyn yr enw Elliw, santes o'r 6g, ond cofnododd William o Gaerwrangon, yn y 15g fod Eiluned wedi byw 14 milltir o'r Henffordd. Mae Llaneleu tua 14 milltir o Henffordd.[1] Sefydlodd hithau Llanelwedd hefyd (ailgysegrwyd yr eglwys i Sant Mathew yn ddiweddarach.) Lladdwyd Eiluned gan lwyth paganaidd ger Aberhonddu.[4] Rholiodd y pen a bwrw yn erbyn carreg y Maendu, ac fe darddodd ffynnon yn y man. Adnewyddwyd y ffynnon hon yn yr 20g a gellir ei gweld heddiw yn ymyl Maes y Ffynnon. Dywedir fod gwyrthiau wedi digwydd wrth ei chreirfa yn fuan ar ôl ei merthyrdod.
Gŵyl Eiluned
[golygu | golygu cod]Yn 1188 disgrifiodd Gerallt Gymro ŵyl blynyddol mewn capel a gysegrwyd iddi tua tair milltir o Aberhonddu; gweler ei lyfr Itinerarium Cambriae (Hanes y Daith Trwy Gymru).[5] Dywedir fod llawer wedi eu hiacháu trwy ffydd ar ddydd ei gŵyl a pharhaodd y werin i ddathlu 'Gŵyl Eiluned' trwy yr Oesoedd Canol er gwaethaf ymdrechion yr Eglwys Gatholig i droi eu sylw at saint Beiblaidd. Peidiodd ei gŵyl o ganlyniad i'r Diwigiad Mawr a throwyd y capel yn ysgubor, a dadfeiliodd.
Cydnabuwyd cysylltiad Eiluned â thref Aberhoddu yn Oes Fictoria pan osodwyd ffenestr liw yn dangos Eluned (Aled) yn nghapel Cain yn y Cadeirlan.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Jones, T. T. 1977, The Daughters of Brychan yn Brycheiniog (cylchgrawn) Cyf.XVII
- ↑ A Welsh Classical Dictionary gan P.C. Bartrum lle dyfynnir Early Welsh Genealogical Tracts hefyd gan P. C. Bartrum, Caerdydd, 1966; gweler gwefan y Llyfrgell Genedlaethol. adalwyd 31 Gorffennaf 2017.
- ↑ Croeso i Eglwys Gadeiriol Aberhonddu (pamffledyn)
- ↑ Spencer, R, 1997, Saints of Wales and the West Country, Llanerch
- ↑ Gerald of Wales. The Itinerary of Archbishop Baldwin through Wales – Book I, Ch. 2: Journey through Hay and Brecheinia. (Oxford, Mississippi, 1997).