Roced V2
Roced V2 yn Amgueddfa Peenemunde | |
Enghraifft o: | model arf |
---|---|
Math | Aggregate, ballistic missile, Arfau V |
Rhan o | Aggregate |
Gweithredwr | y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America, Yr Undeb Sofietaidd, Canada, yr Almaen Natsïaidd |
Gwneuthurwr | Mittelwerk |
Hyd | 14 metr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Taflegryn balistig a ddatblygwyd gan yr Almaen Natsïaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd y roced V2 (o'r Almaeneg Vergeltungswaffe 2, hynny yw "Arf Dial 2"). Roedd y taflegryn yn cael ei bweru gan injan roced a oedd yn defnyddio tanwydd hylifol.
Dechreuodd y posibilrwydd o ddefnyddio rocedi hirbell at ddibenion milwrol yn 1932 pan sylwodd byddin yr Almaen ar waith ymchwil Wernher von Braun, peiriannydd ifanc a fyddai'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddylunio a datblygu'r V2 yn Peenemünde, gogledd-ddwyrain yr Almaen, o 1939 ymlaen. Yn dilyn lansio cyfres o brototeipiau roedd y V2 yn barod erbyn Medi 1944. Yn ystod un o'r profion hyn, ar 20 Mehefin 1944, roced V2 oedd y gwrthrych dynol cyntaf i gyrraedd y gofod allanol pan gyflawnodd uchder o 176 km (109 milltir) cyn iddo ddisgyn yn ôl i'r ddaear.
Targedau
[golygu | golygu cod]Teithiodd y rocedi ar gyflymder uwchsonig, taro'r ddaear heb rybudd clywadwy, a phrofodd yn ddiatal. Nid oedd amddiffyniad effeithiol yn eu herbyn. O 7 Medi 1944 hyd 27 Mawrth 1945, fe lansiwyd miloedd o gopïau o'r V2 gydag arfbennau ffrwydrol yn erbyn targedau sifil yng Ngwlad Belg a Lloegr.
- Gwlad Belg, 1,664: Antwerp (1,610), Liège (27), Hasselt (13), Tournai (9), Mons (3), Diest (2)
- Lloegr, 1,402: Llundain (1,358), Norwich (43), Ipswich (1)
- Ffrainc, 76: Lille (25), Paris (22), Tourcoing (19), Arras (6), Cambrai (4)
- Yr Iseldiroedd, 19: Maastricht (19)
- Yr Almaen, 11: Remagen (Pont Ludendorff) (11)
Amcangyfrifwyd bod yr ymosodiadau o daflegrau V2 wedi arwain at farwolaethau 9,000 o sifiliaid a phersonél milwrol, tra bu farw 12,000 o labrwyr a charcharorion gwersyll crynhoi o ganlyniad i gael eu gorfodi i gynhyrchu'r arfau.[1]
Cynhyrchu a defnyddio'r taflegrau
[golygu | golygu cod]Ar noson 17/18 Awst 1943, ymosododd awyrennau bomio’r Awyrlu Brenhinol ar Ganolfan Ymchwil y Fyddin Peenemünde lle hyd hynny roedd gwaith datblygu a chynhyrchu V2 yn cael ei wneud. Symudwyd cynhyrchu'r arfau i ffatri mwy diogel a adeiladwyd o dan y ddaear ym bryn Kohnstein yn Thüringen. Yno defnyddiodd y ffatri lafur caethweision o wersyll crynhoi Mittelbau-Dora i gynhyrchu taflegrau V2 yn ogystal â bomiau hedfan V1 ac arfau eraill.
Cludwyd y taflegrau i wahanol leoliadau yng ngogledd-orllewin Ewrop ar ôl-gerbydau a'u lansio o strwythur tanio symudol. Gellid lansio'r V2 bron yn unrhyw le, er bod ffyrdd a oedd yn rhedeg trwy goedwigoedd yn cael eu dewis yn aml. Amcangyfrifwyd y gellid lansio hyd at 350 V2 yr wythnos, gyda 100 y dydd pe bai angen.
Ar ôl y rhyfel
[golygu | golygu cod]Ar ddiwedd y rhyfel, bu'r Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd yn cystadlu i gipio cymaint o rocedi a staff V2 â phosibl. Cafodd nifer fawr o V2s eu dal a'u cludo i’r Unol Daleithiau a 126 ynghyd â'r prif ddylunwyr, gan gynnwys Wernher von Braun. Felly daeth y V2 yn sylfaen i brosiect taflegrau UDA.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Moduron roced V2 mewn ffatri danddaearol gyfrinachol yn Nordhause, 1944
-
Roced V2 ar ôl-gerbyd yn Peenemünde
-
Milwyr Prydeinig yn sefyll ar wagen reilffordd wedi'i llwytho â thaflegryn V2 wedi'i gadael, 16 Ebrill 1945
-
Difrod o ganlyniad i daflegryn V2 a ffrwydrodd yn ardal Upton Park, East Ham, Llundain, 28 Ionawr 1945
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Syed Ramsey, Tools of War: History of Weapons in Modern Times (VIJ Books India, 2016))
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Dungan, T. D., V-2: A Combat History of the First Ballistic Missile (Yardley, Pennsylvania, 2005)
- King, Benjamin, a Timothy J. Kutta, Impact: The History of Germany's V-Weapons in World War II (Efrog Newydd: 1998)
- Neufeld, Michael J., The Rocket and the Reich: Peenemünde and the Coming of the Ballistic Missile Era (Efrog Newydd, 1995)
- Zaloga, Steven, V-2 Ballistic Missile, 1942–52 (Rhydychen, 2003)