Rhestr digwyddiadau Cymru, 18g
Gwedd
Dyma restr o ddigwyddiadau yng Nghymru yn yr 18g.
Hanes Cymru |
---|
Cynhanes Cymru |
Oes y Celtiaid |
Cyfnod modern cynnar |
Teyrnasoedd |
Rhestr digwyddiadau |
Iaith |
Crefydd |
Llenyddiaeth |
Deddfau pwysig
|
Mytholeg a symbolau |
Hanesyddiaeth |
WiciBrosiect Cymru |
Rhestr
[golygu | golygu cod]- 1714 - Cymdeithas yr Hen Frythoniaid, y gymdeithas gyntaf i gael ei sefydlu gan y Cymry yn Llundain.
- 1718 - Isaac Carter yn sefydlu argraffdy yn Atpar, Ceredigion, y cyntaf yng Nghymru.
- 1731 - Griffith Jones, Llanddowror, yn sefydlu'r gyntaf o'r Ysgolion Cylchynol Cymreig.
- 1733 - Pasio'r Ddeddf Cau Tiroedd Comin gyntaf; ystadau mawr ar gynnydd ar draul y ffermwyr bychain.
- 1735 - Howel Harris yn dechrau ei waith.
- 1742 - Cyfarfod cyntaf y Gymdeithasfa Fethodistaidd yng Nghymru.
- 1744 - Casgliad emynau cyntaf William Williams (Pantycelyn).
- 1752 - Sefydlu cymuned Trefeca gan Howel Harris.
- 1759 - John Guest yn dechrau datblygu'r gwaith haearn ym Merthyr Tudful a'r dref honno'n tyfu'n gyflym mewn canlyniad.
- 1770 - Sefydlu Cymdeithas y Gwyneddigion.
- 1776 - Llyfr cyntaf Richard Price yn ymddangos.
- 1782 - Yr Arglwydd Penrhyn yn sefydlu'r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru.
- 1789 - Ysgol Sul gyntaf Thomas Charles o'r Bala yn agor.
- 1792 - Sefydlu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain gan Iolo Morganwg
- 1797 - Glanio'r Ffrancod yn Abergwaun.