Palas Hampton Court
Math | amgueddfa tŷ hanesyddol, palas, theatr, amgueddfa annibynnol |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Richmond upon Thames |
Agoriad swyddogol | 1838 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Gerllaw | Afon Tafwys |
Cyfesurynnau | 51.4034°N 0.337499°W |
Cod OS | TQ1573968461 |
Cod post | KT8 9AU |
Rheolir gan | Historic Royal Palaces |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Duduraidd, Baróc |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig |
Manylion | |
Deunydd | bricsen |
Palas brenhinol yn Richmond upon Thames, Llundain Fwyaf, yw Palas Hampton Court. Saif ar lannau gogleddol Afon Tafwys, 12 milltir (19 ) i'r de-orllewin o ganol Llundain.
Dechreuwyd adeiladu'r palas yn 1514 gan Thomas Wolsey, pan oedd yn brif weinidog i Harri VIII, brenin Lloegr.[1] Ym 1529, ac yntau wedi digio'r brenin, rhoddodd Wolsey y palas i Harri er mwyn adennill ei ffafr. Daeth y palas yn un o hoff breswylfeydd y brenin; yn fuan ar ôl iddo gael yr eiddo, trefnodd iddo gael ei ehangu.[2]
Yn gynnar yn y 1690au, roedd Wiliam III yn dymuno creu palas i gystadlu â Phalas Versailles yn Ffrainc. Roedd gwraig William, y Frenhines Mary, yn ymwneud â chynllunio'r gerddi. Adeiladwyd oriel ar lan y dŵr ganddi lle arddangosodd ei chasgliad o borslen.[3] Ymgymerodd â phrosiect enfawr o ailadeiladu ac ehangu yn Hampton Court, a thrwy hynny ddinistrio llawer o'r palas Tuduraidd. Lluniodd Christopher Wren gynlluniau a gafodd eu haddasu yn ystod y gwaith adeiladu. Daeth y gwaith hwn i ben ym 1694, gan adael y palas mewn dwy arddull bensaernïol wahanol, sef Tuduraidd a Baróc.[4]
Siôr II (teyrnasiad 1727–1760) oedd y brenin olaf i breswylio yn y palas.
Mae'r palas a'i erddi ar agor i'r cyhoedd, ac yn cael eu rheoli gan Historic Royal Palaces, elusen sy'n cynnal a chadw sawl eiddo nad yw'r teulu brenhinol yn byw ynddynt mwyach.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Y Tŷ Porth Mawr
-
Tŷ Porth Anne Boleyn
-
Rhan flaen ddeheuol gan Christopher Wren
-
Cwrt y Ffynnon gan Christopher Wren
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Thurley, Simon (2004). Hampton Court Palace: A Social and Architectural History (yn Saesneg). Yale University Press. tt. 8 ff.
- ↑ Summerson, John (1969). Great Palaces (Hampton Court. pp. 12–23) (yn Saesneg). Llundain: Hamlyn Publishing Group Ltd. tt. 14–21. ISBN 0-600-01682-X.
- ↑ Deborah C. Fisher (2024). William and Mary: William and Mary: A History of Their Most Important Places and Events (yn Saesneg). Pen & Sword. ISBN 9781399075626.
- ↑ Neville Williams (1971). Royal Homes (yn Saesneg). Gwasg Lutterworth. t. 54. ISBN 0-7188-0803-7
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol
- "Hampton Court Palace", Historic England