Oum Er-Rbia
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Moroco |
Gwlad | Moroco |
Cyfesurynnau | 33.05639°N 5.38014°W, 33.32°N 8.3381°W |
Tarddiad | Atlas Canol |
Aber | Cefnfor yr Iwerydd |
Llednentydd | Oued Tessaout |
Dalgylch | 35,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 556 cilometr |
Arllwysiad | 117 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
Llynnoedd | Q86508430, Sidi Saïd Maâchou |
Afon ail fwyaf Moroco gyda hyd o 600 km yw'r Oum Er-Rbia (ceir sawl amrywiad ar sillafiad yr enw yn y wyddor Rufeinig, yn cynnwys Oum Errabiaa, Oum Er R'bia ac Oum Er-Bia).
Gorwedd tarddle'r afon yn yr Atlas Canol tua 40 km o dref Khénifra a 26 km o M'rirt, yn commune wledig Oum Errabiaa. Ar ôl llifo am 600 km ar draws y wlad i gyfeiriad y gorllewin mae'n aberu yng Nghefnfor Iwerydd ger dinas fechan Azemmour (rhanbarth Abda-Doukkala, Grand Casablanca).
Ceir wyth argae ar ei chwrs, sy'n cyflenwi dŵr i ardal eang; y pwysicaf yw Bin el Ouidane, ar Oued El Aabid, ger tref Beni Mellal 120 km o Khénifra. Mae'r afon yn dyfrhau tiroedd amaethyddol gwastatiroedd Tadla ac Abda-Doukkala. Prif lednentydd yr Oum Errabiaa yw Oued Srou, Oued Chbouka ac Oued Ouaoumana.
Ystyr yr enw Oum Er-Rbia yw "Mam y Gwanwyn" am fod yr afon yn llenwi â dŵr o'r eira toddedig oddi ar Mynyddoedd yr Atlas yn y gwanwyn ac yn gorlifo i ffrwythloni'r tir. Mae gan yr afon hon le arbennig yn hanes a thraddodiad y Maghreb am fod y cadfridog Oqba ibn Nafi wedi arwain ei fyddin Islamaidd ar hyd ei glannau i gyrraedd Cefnfor Iwerydd ar ddechrau'r 680au ac agor pennod newydd yn hanes Moroco a'r Maghreb. Mae'r nofel La Mère du Printemps gan yr awdur Driss Chraïbi, a aned ger glannau'r afon, yn seiliedig ar yr hanes a'r effaith a gafodd ar ddiwylliant y Berberiaid.