Neidio i'r cynnwys

Nikon

Oddi ar Wicipedia
Nikon
Enghraifft o'r canlynolcorfforaeth amlieithog, camera manufacturer, cwmni cyhoeddus Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1917 Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolWi-Fi Alliance, SD Association, Camera & Imaging Products Association, BSA | The Software Alliance, Inc. Edit this on Wikidata
Isgwmni/auNikon UK, Nikon (United States) Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolkabushiki gaisha (math o gwmni) Edit this on Wikidata
Cynnyrchmeddalwedd, single-lens reflex camera, Camera Edit this on Wikidata
PencadlysMinato Edit this on Wikidata
GwladwriaethJapan Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.jp.nikon.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Camera Nikon F FTN

Corfforaeth ryngwladol o Japaneaidd sydd â'i phencadlys yn Tokyo, Japan, ac sy'n arbenigo mewn cynhyrchion optegol a delweddu yw Nikon Corporation (株式会社ニコン Kabushiki-gaisha Nikon).

Mae cynhyrchion Nikon yn cynnwys camerâu, lensys camera, ysbienddrychau, microsgopau, lensys offthalmig, offerynnau mesur, sgopiau reiffl, scopiau arsylwi, a'r stepwyr a ddefnyddir yn y camau ffotolithograffeg o wneuthuriad lled- ddargludol. Nikon yw'r ail weithgynhyrchydd mwyaf y byd yn y maes hwn.[1] Y cwmni oedd yr wythfed gwneuthurwr offer sglodion cyfrifiadurol mwyaf yn y byd yn ôl adroddiad 2017.[2] Mae'r cwmnïau a ddelir gan Nikon yn ffurfio'r Nikon Group.[3] Ymhlith ei gynhyrchion mae lensys delweddu Nikkor (ar gyfer camerâu 'gosodiad-F', ffotograffiaeth fformat mawr, helaethwyr ffotograffig, a chymwysiadau eraill), cyfres F- o gamerâu SLR 35 mm, cyfres D- o gamerâu digidol SLR, yr gyfres Coolpix o gamerâu digidol bychain, a chyfres Nikonos o gamerâu ffilm tanddwr. Mae prif gystadleuwyr Nikon mewn gweithgynhyrchu camera a lens yn cynnwys Canon, Sony, Fujifilm, Panasonic, Pentax, ac Olympus .

Sefydlwyd y cwmni ar 5 Gorffennaf 1917 fel Nippon Kōgaku Kōgyō Kabushikigaisha ( 日本光学工業株式会社 "Cwmni Diwydiannau Optegol Japan, Cyf."), ac ailenwyd y cwmni yn Nikon Corporation, ar ôl ei gamerâu, ym 1988. Mae Nikon yn aelod o grŵp o gwmnïau (keiretsu) Mitsubishi.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Analyst: Top IC suppliers remain largely unchanged 2007". Solid State Technology. Electro IQ. 2008-05-18. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-20. Cyrchwyd 2010-02-05.
  2. "Nikon files patent case against ASML, Carl Zeiss over lithography tech". Reuters. 24 Apr 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-24. Cyrchwyd 24 April 2017.
  3. "Nikon Group Companies". Nikon Corporation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-16. Cyrchwyd 2010-02-05.
  4. "Nikon Company Profile". mitsubishi.com committee. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-27. Cyrchwyd 2011-01-27.