Man Ray
Man Ray | |
---|---|
Ffugenw | Radenski, Emmanuel, Man Rei, Rudnitzky, Emmanuel |
Ganwyd | 27 Awst 1890 Philadelphia |
Bu farw | 18 Tachwedd 1976 Paris, 6th arrondissement of Paris |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, ffotograffydd, sinematograffydd, sgriptiwr, arlunydd, golygydd ffilm, gludweithiwr, hunangofiannydd, actor, cynllunydd, dylunydd gemwaith, gwneuthurwr ffilm, gwneuthurwr printiau, cerflunydd, artist cydosodiad, arlunydd |
Adnabyddus am | Ingres's Violin, Gift |
Arddull | cydosod, celf haniaethol |
Mudiad | Swrealaeth, Dada |
Tad | Max Ray |
Mam | Manya Lourie Ray |
Priod | Juliet Man Ray, Adon Lacroix |
Partner | Lee Miller, Alice Prin |
Gwefan | http://www.manraytrust.com/ |
llofnod | |
Arlunydd o'r Unol Daleithiau a dreuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yn Ffrainc lle daeth yn ffigwr amlwg ym mudiadau Swrealaeth a Dada oedd Man Ray (Emmanuel Rudzitzky, 27 Awst 1890 – 18 Tachwedd 1976).
Ganed Man Ray yn Philadelphia, Pennsylvania ac fe'i magwyd yn ardal Brooklyn, Dinas Efrog Newydd. Mewnfudwyr diweddar o Rwsia, o dras Iddewig, oedd ei rieni, Symudodd i fyw a gweithio yn Ffrainc pan oedd y mudiad Swrealaeth ar ei anterth yn Ewrop. Yn artist a arddelai Fodernaeth, cyfranodd yn sylweddol i waith y Swrealwyr a'r Dadawyr, er na fu erioed yn aelod ffurfiol o'r mudiadau hynny. Adnabyddir Man Ray yn bennaf fel ffotograffydd avant-garde, ond cynhyrchodd weithiau pwysig mewn sawl cyfrwng ac roedd yn ystyried ei hun yn baentiwr yn bennaf.
Yn 1999, cafodd ei enwi gan cylchgrawn ARTnews fel un o'r 25 artistiaid mwyaf dylanwadol yr 20g. Yn ogystal â ffotograffiaeth ac arlunio, arbrofodd â ffilm, cerfluniaeth, collage, a drama arloesol.
Yn ystod ei arosiad hir yn ninas Paris, o 1921 hyd 1940, daeth i adnabod rhai o artistiaid mwyaf y cyfnod, yn cynnwys Salvador Dalí a Marcel Duchamp. Yn ei stiwdio ym Montparnasse, tynnodd bortreadau cofiadwy o lenorion ac artistiad enwog fel James Joyce, Gertrude Stein, Jean Cocteau ac Antonin Artaud.