Neidio i'r cynnwys

Maesteg

Oddi ar Wicipedia
Maesteg
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth17,580, 17,048 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,720.58 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.61°N 3.65°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000640 Edit this on Wikidata
Cod OSSS855915 Edit this on Wikidata
Cod postCF34 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruHuw Irranca-Davies (Llafur)
AS/au y DUStephen Kinnock (Llafur)
Map

Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw Maesteg. Mae Caerdydd 36.2 km i ffwrdd o Faesteg ac mae Llundain yn 246.2 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe sy'n 21.2 km i'r gorllewin. Yn 2011 roedd ei phoblogaeth yn 17,580, o'i gymharu â 17,859 yn 2001. Mae ganddi arwynebedd o 2,721 ha ac yn cwmpasu rhan uchaf Afon Llyfni. Gellir olrhain twf Maesteg i'r gwaith haearn a thunplat treflannau fel Porth-cawl, Llynfi a Llwydarth.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Huw Irranca-Davies (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Stephen Kinnock (Llafur).[2]

Diwydiant

[golygu | golygu cod]

Agorodd gwaith haearn ym Maesteg yn 1826 a chysylltwyd hi gyda Phorth-cawl drwy dramffordd geffylau. Yn 1837 agorwyd gwaith haearn Llynfi a gellir gweld olion y gwaith yno o hyd: adilad y chwyth-beiriant (neu fegin-beiriant), ffwrnais chwyth a rhesi tai'r gweithwyr haearn.

Yn Llwydarth, yn 1889, sefydlwyd gwaith tunplat. Cynrychiolchi Undeb Glowyr Maesteg wnaeth Vernon Hartshorn, a ddaeth yn aelod o gabinet y Blaid Lafur - y Cymro cyntaf i'w ethol i Cabinet Llafur. Rhwng y ddau ryfel; byd, daeth y Dirwasgiad Mawr - a effeithiodd yn sylweddol ar Faesteg a'r cyffiniau; gwelwyd gostyngiad yn y boblogaeth rhwng 1921 a 1931 o 24%.

Hamdden

[golygu | golygu cod]

Ceir Coetir Ysbryd Llynfi ar gyrion y dref sy'n ardal o goedwig ac hamdden gyda llwybrau cerdded, rhedeg a seiclo. Planwyd y coetir ar safle hen bwll glo Coegnant a Golchfa Maesteg.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Maesteg (pob oed) (17,580)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Maesteg) (1,867)
  
11%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Maesteg) (16319)
  
92.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Maesteg) (3,412)
  
45.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%
Golygfa o'r dref

Pobl o'r ardal

[golygu | golygu cod]
  • W. Beddoe Rees, pensaer

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]