Locomotif Dosbarth AB 4-6-2, Rheilffordd Seland Newydd
Gwedd
Roedd y Locomotif Dosbarth AB 4-6-2, Rheilffordd Seland Newydd yn locomotif llwyddiannus iawn ar reilffyrdd Seland Newydd. Adeiladwyd 141 ohonynt rhwng 1915 a 1927 gan Weithdy Addington, A & G Price Limited o Thames, Seland Newydd, a Chwmni Locomotif North British, dosbarth mwyaf niferus y wlad.[1]. Roedd yr AB yn ddatblygiad o’r dosbarth A cynharach.
Cadwraeth
[golygu | golygu cod]Mae 7 ohonynt yn goroesi:-
- Rhif 608 Passchendaele[2]; rhoddwyd gan y NZR i Gymdeithas Reilffordd a Locomotifau Seland Newydd ym 1967. Llogwyd ac atgyweiriwyd y locomotif gan Steam Incorporated o Paekakariki ym 1993, ac ers 25 Ebrill 2014, wedi bod yn weithredol ar brif reilffyrdd Seland Newydd.
- Rhif 663 Sharon Lee; prynwyd ar gyfer Ymddiriedolaeth Treftadaeth Stêm Mainline ac wedi bod yn weithredol, yn defnyddio olew ynn hytrach na glo.
- Rhif 699; eiddo i Gymdeithas Rheilffordd a Hanes Pleasant Point
- Rhif 745; eiddo i Ymddiriedolaeth Treftadaeth Rheilffordd Llethrau Rimutaka ac yn brosiect atgyweirio hir dymor.
- Rhif 778 yn eiddo i Reilffordd Kingston Flyer. Mae angen atgyweirio’r boeler.
- Rhif 795 Greenvale; yn eiddo i Reilffordd Kingston Flyer. Gweithredol ond mewn storfa.
- Rhif 832; Rhoddwyd gan NZR i Amgueddfa Cludiant a Thecnoleg
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Churchman & Hurst 2001, t. 28.
- ↑ Maciver 2014, t. 3.