Llywodraethiaeth Qalqilya
Enghraifft o'r canlynol | llywodraethiaethau Palesteina |
---|---|
Label brodorol | محافظة قلقيلية |
Poblogaeth | 121,671 |
Gwlad | Palesteina |
Enw brodorol | محافظة قلقيلية |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Rhanbarth | y Lan Orllewinol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Llywodraethiaeth Qalqilya neu Lywodraethiaeth Calcilia (Arabeg: محافظة قلقيلية Muḥāfaẓat Qalqīlya; Hebraeg: נפת קלקיליה Nafat Qalqilya) yn un o 16 Llywodraethiaethau Palesteina. Lleolir y Llywodraethiaeth ar ochr ogledd-orllewinnol y Lan Orllewinol yn Awdurdod Palesteina. Ei phrifddinas neu muhfaza (sedd) yw dinas Qalqilya sy'n ffinio â'r Llinell Werdd (ffin 1967 gydag Israel wedi'r Rhyfel Chwe Diwrnod. Mae Mur Israelaidd y Lan Orllewinol yn torri ar draws rhan helaeth o'r Llywodraethiaeth.
Yn ôl Swyddfa Ystadegau Ganolog Palestina, roedd gan y llywodraethiaeth 112,400 o drigolion ganol 2017. Erbyn 2020 cododd y nifer hon i 119,042 o drigolion.[1]
Demograffeg
[golygu | golygu cod]Mae'r boblogaeth ar gyfartaledd yn ifanc iawn ac mae tua 37.2 y cant yn iau na 15 oed, a dim ond 3.4 y cant sydd dros 65 oed. Yn 2017, roedd 100 y cant o'r boblogaeth yn Fwslim. Ni chynhwyswyd preswylwyr aneddiadau Iddewig. Roedd 64.5 y cant o gyfanswm y boblogaeth yn ffoaduriaid yn yr un flwyddyn.
Cyfrifiad | Trigolion[1] |
---|---|
1997 | 72.007 |
2007 | 91.217 |
2017 | 112.400 |
Is-adrannau
[golygu | golygu cod]Dinasoedd
[golygu | golygu cod]- Azzun
- Hableh
- Qalqilya
- Kafr Thulth
Trefi a Phentrefi
[golygu | golygu cod]
|
|
|
|
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Ras at-Tira - ar wahân i Qalqilya ac o gymunedau cyfagos eraill gan bolisi anheddu Israel - noder Mur Israelaidd y Lan Orllewinol, 2013
-
Pentref Jit
-
Kafr Thulth o'r dwyrain, 2015