Llyfr Galarnad
Gwedd
Llyfr yn y Beibl Hebraeg ac Hen Destament y Beibl Cristnogol yw Llyfr Galarnad neu Galarnad Jeremeia. Casgliad o alarnadau ydyw sydd yn alaethu dinistr Caersalem a'r Deml Gyntaf gan y Babiloniaid. Mae'r testun yn rhoi'r bai am y drychineb hon ar bechodau'r Iddewon.[1]
Yn y Beibl Hebraeg, mae Llyfr Galarnad yn un o bum llyfr y Megillot yn y Ketuvim, ac fe'i darllenir yn sgrôl litwrgïaidd adeg gŵyl Tisha B'Av. Yn ôl y traddodiad Iddewig, ysgrifennwyd y llyfr gan y proffwyd Jeremeia. Yn nhrefn y Beibl Cristnogol, rhoddir y llyfr hwn ar ôl Llyfr Jeremeia.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Sara E. Karesh a Mitchell M. Hurvitz, Encyclopedia of Judaism (Efrog Newydd: Facts On File, 2006), t. 285.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Jacob Neusner, Israel After Calamity: The Book of Lamentation (Harrisburg, Pennsylvania: Morehouse, 1995).