Neidio i'r cynnwys

Llangadwaladr, Ynys Môn

Oddi ar Wicipedia
Llangadwaladr
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1956°N 4.4219°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au y DULlinos Medi (Plaid Cymru)
Map
Am y pentref o'r un enw ym Mhowys, gweler Llangadwaladr, Powys.

Pentref bychan yng nghymuned Bodorgan, Ynys Môn, yw Llangadwaladr[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir ar arfordir gorllewinol yr ynys. Saif ar briffordd yr A4080, ychydig i'r gorllewin o bentref Hermon ac i'r dwyrain o Aberffraw.

Yr adeilad mwyaf nodedig yn y pentref yw'r eglwys. Mae'r adeilad presennol yn dyddio o tua'r 15g, ond yn y mur tu mewn i'r eglwys mae carreg fedd Cadfan ap Iago, brenin Gwynedd yn y 7g. Dywedir mai dyma beddfaen brenhinol hynaf yng ngwledydd Prydain.[3] Yn ôl pob tebyg, ŵyr Cafan, Cadwaladr Fendigaid, yw'r Cadwaladr sy'n cael ei goffáu yn enw'r eglwys a'r pentref. Credir fod Llangadwaladr wedi bod yn fan claddu i frenhinoedd Gwynedd, gan fod prif lys Gwynedd, Aberffraw, heb fod ymhell o'r eglwys, yr ochr arall i Afon Ffraw.

Mae nifer o nodweddion diddorol eraill yn yr eglwys, yn cynnwys ffenestr liw yn dyddio o ddiwedd y 15g a roddwyd gan Meurig ap Llywelyn a’i wraig fel diolch am i'w mab Owain ddychwelyd yn ddiogel o Frwydr Bosworth. Mae un o'r ddau gapel hefyd yn rhodd teulu Meyrick, Bodorgan.

Carreg fedd Cadfan ap Iago yn eglwys Llangadwaladr

Owen Lewis

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Owen Lewis neu Lewis Owen (Eidaleg: Ludovico Audoeno, Lladin: Audoenus Ludovisi) (28 Rhagfyr 1533[4] – 14 Hydref 1594) ym mhentrefan Bodeon ger Llangadwaladr. Daeth yn Esgob Cassano all'Jonio, yn yr Eidal.[5] Gwrthwynebai Brotestaniaeth i'r carn. Mynychodd Brifysgol Caerwynt (Windchester College), Coleg Newydd, Rhydychen ac yna Université de Douai yn Frainc, ac fe'i gwnaed yn offeiriad yn yr Eglwys Babyddol ac yn brifathro prifysgol yn Adran y Gyfraith yn Douai; yna fe'i gwnaed yn ganon yn Cathédrale Notre-Dame de Grâce de Cambrai ac yn ddeon yn Hainault. Yn ei rol fel canon ymwelodd sawl tro â Rhufain lle y cyfarfu Pab Sixtus V ac yna Pab Gregory XIII a phenodwyd ef i sawl swydd eglwysig.[6]

Sefydlodd, gyda William Allen, ddwy brifysgol: y naill ai yn Douai a'r llall yn Rhufain a rhoddodd swydd i'w gyfaill Morys Clynnog (c. 1525 - 1581) yn y coleg yn Rhufain. Ym Milan, rhwng 1580 a 1584 gweithredodd fel Gweinyddwr y brifysgol. Croesawyd ef yn gynnes i Milan gan yr Archesgob Carlo Borromeo ac arhosodd Owen gydag ef a'i deulu am gyfnod. Ym mreichiau Owen y bu farw Borromeo. Daeth Cymry eraill ato i'r Eidal, gan gynnwys Gruffydd Robert (cyn 1531 - ar ôl 1598).[7]

Yn Rhufain bu'n gyfrifol am bolisiau'n ymwneud â Mari, brenhines yr Alban a Choleg Reims.[8] Ar 3 Chwefror 1588 penodwyd ef yn Archesgob Cassano ym Mrenhiniaeth Napoli ac ordeiniwyd ef gan Nicolas de Pellevé ar 14 Chwefror.[5]

Bu farw yn Rhufain ar 14 Hydref 1594 a chladdwyd ef yn y brifysgol a sefydlodd, lle codwyd cofeb iddo gydag arysgrif Ladin arno.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 18 Mawrth 2023
  2. British Place Names; adalwyd 18 Mawrth 2023
  3. eupedia.com; adalwyd 2016
  4. Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; LlGC. Adalwyd 14 Hydref 2017.
  5. 5.0 5.1 "Bishop Owen (Audoenus) Lewis (Ludovisi)" Catholic-Hierarchy.org. David M. Cheney. Adalwyd 14 Hydref 2017.
  6. Brendan Bradshaw, Peter Roberts, British Consciousness and Identity: The Making of Britain, 1533-1707 (2003), tt.21–2; Google Books.
  7. Wietse de Boer, The Conquest of the Soul: confession, discipline, and public order in Counter-Reformation Milan (2001), t. xiii; Google Books
  8. Paul Burns, Butler's Lives of the Saints: February (1998), t. 207; Google Books.

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]