Landreger
Gwedd
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,409 |
Gefeilldref/i | Mondoñedo |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Llydaw |
Arwynebedd | 1.52 km² |
Uwch y môr | 0 metr, 66 metr |
Gerllaw | Guindy, Jaudy |
Yn ffinio gyda | Priel, Ar Vinic'hi |
Cyfesurynnau | 48.785°N 3.2325°W |
Cod post | 22220 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Landreger |
Cymuned a phorthladd yn departamant Aodoù-an-Arvor yw Landreger (Ffrangeg: Tréguier). Hi oedd prifddinas talaith hanesyddol Bro-Dreger. Mae'n ffinio gyda Priel, Ar Vinic'hi ac mae ganddi boblogaeth o tua 2,409 (1 Ionawr 2021). Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 1,763.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Landreger gan Sant Tudwal, a dywedir i Sant Briog sefydlu mynachlog yma hefyd. Cyhoeddwyd y C'hatolicon, y geiriadur Ffrangeg / Llydaweg cyntaf, yma yn 1499. Roedd hwn wedi ei ysgrifennu yn 1464 gan Jehan Lagadeuc. Yn 2007, roedd 16% o'r disgyblion ysgol gynradd yn derbyn addysg ddwyieithog.
Poblogaeth
[golygu | golygu cod]Pobl enwog o Landreger
[golygu | golygu cod]- Ernest Helo (1828-1885), beirniad
- Herveus Natalis (c. 1260-1323) 14 Meistr Cyffredinol y Dominicans
- Joseph Savina (1901-1983), dylunydd a cherflunydd, byw a gweithio yma.
Ernest Renan awdur, athronydd a hanesydd Llydewig
[golygu | golygu cod]-
Amgueddfa man geni Renan
-
Cerflyn Ernest Renan
-
Protest Calfaria gan Yves Hernot, yn erbyn codi'r cerflyn i'r amheuwr crefyddol Ernest Renan
Eglwys Gadeiriol Sant Tudwal
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd Eglwys Gadeiriol Sant Tudwal yn 14g, mae'r eglwys yn nodedig am ei thri tŵr
-
Eglwys Gadeiriol Sant Tudwal
-
Cloestr Eglwys Gadeiriol St Tudwal