John Maynard Keynes
John Maynard Keynes | |
---|---|
Ganwyd | 5 Mehefin 1883 Caergrawnt |
Bu farw | 21 Ebrill 1946 Firle |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | economegydd, mathemategydd, gwleidydd, athronydd, athro cadeiriol, diplomydd, awdur ffeithiol, person busnes, awdur |
Swydd | Aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The General Theory of Employment, Interest and Money, Indian Currency and Finance, The Economic Consequences of the Peace, A Treatise on Probability, A Treatise on Money |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Mudiad | Grŵp Bloomsbury |
Tad | John Neville Keynes |
Mam | Florence Ada Keynes |
Priod | Lydia Lopokova |
Partner | Duncan Grant, Alfred Dillwyn Knox, Daniel Macmillan, Lytton Strachey, James Strachey, Arthur Hobhouse, David Garnett |
Gwobr/au | Cydymaith Urdd y Baddon, Gwobr Adam Smith, Cymrawd y Gymdeithas Econometrig, Cymrawd yr Academi Brydeinig, doctor honoris causa from the University of Paris |
llofnod | |
Economegydd o Loegr oedd John Maynard Keynes, Barwn 1af Keynes (5 Mehefin 1883 – 21 Ebrill 1946).[1] Cafodd ei syniadau, Economeg Keyenes, ddylanwad mawr ar theori economeg ac ar bolisïau economaidd llawer o lywodraethau. Credai y dylai'r llywodraeth ymyrryd yn yr economi i wrthweithio effeithiau mwyaf eithafol y cylch economaidd. Ystyrir ef fel un o sylfaenwyr macroeconomeg.
Ganed Keynes yng Nghaergrawnt. Roedd ei dad, John Neville Keynes, yn ddarlithydd mewn economeg ym Mhrifysgol Caergrawnt. Aeth i ysgol Eton ac yna i Goleg y Brenin, Caergrawnt yn 1902. Yn ddiweddarach daeth yn ddarlithydd yng Nghaergrawnt. Apwyntiwyd ef yn ymgynghorydd i'r Trysorlys yng Nghynhadledd Heddwch Paris yn 1919 a arweiniodd at Gytundeb Versailles Cyhoeddodd ddau lyfr ar y mater, The Economic Consequences of the Peace yn 1919, a A Revision of the Treaty yn 1922, gan ddadlau fod y taliadau a orfodid ar yr Almaen yn ormod, ac y byddai'n difetha economi'r Almaen ac yn arwain at ryfel pellach.
Cyhoeddodd ei lyfr pwysicaf, General Theory of Employment, Interest and Money, yn 1936, gan herio economeg glasurol.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- The Economic Consequences of the Peace (1919)
- Tract on Monetary Reform (1923)
- A Treatise On Probability
- Essays in Persuasion (1931)
- The General Theory of Employment, Interest, and Money (1936)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Lord Keynes Dies of Heart Attack. The New York Times (22 Ebrill 1946). Adalwyd ar 28 Ebrill 2013.