John Hawkins
John Hawkins | |
---|---|
Ganwyd | 1532 Plymouth |
Bu farw | 12 Tachwedd 1595 o dysentri Puerto Rico |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | Herwlongwriaeth, gwleidydd, person busnes, masnachwr caethweision |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1571, Aelod o Senedd 1572-83 |
Tad | William Hawkins |
Mam | Joan Trelawny |
Priod | Margaret Vaughan, Katherine Gonson |
Plant | Richard Hawkins |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
llofnod | |
Fforiwr a morwr o Loegr oedd Syr John Hawkins (1532 – 12 Tachwedd 1595). Roedd yn un o forwyr amlycaf Teyrnas Lloegr yn ystod Oes Aur Fforio, yn brif gynlluniwr y llynges Elisabethaidd, a'r Sais cyntaf i fasnachu caethweision Affricanaidd yn yr Amerig.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd yn Plymouth, Dyfnaint, yn fab i William Hawkins, marsiandwr cefnog yn Ne Orllewin Lloegr. Ei gyfyrder oedd Syr Francis Drake. Yn ei ieuenctid, aeth ar sawl taith i'r Ynysoedd Dedwydd a ddysgodd am y fasnach gynyddol o werthu caethweision Affricanaidd yn nhrefedigaethau Sbaen yn yr Amerig. Priododd Katharine Gonson, merch i drysorydd y llynges Benjamin Gonson, ym 1559.[1]
Y fordaith gyntaf (1562–63)
[golygu | golygu cod]Trwy gymorth Gonson, rhoddwyd tair llong i Hawkins ar gyfer ei fordaith gyntaf. Teithiodd i'r Caribî ym 1562 ar ran cwmni o farsiandwyr Llundeinig i fuddsoddi yn y fasnach gaethweision. Herwgipiodd Hawkins long Bortiwgalaidd, a oedd yn cludo 301 o gaethweision Affricanaidd. Gwerthodd y caethweision yn y Caribî, gan ennill elw go dda. Sbardunodd y fordaith hon fordeithiau eraill gan Saeson gyda'r amcan o elwa ar gaethwasiaeth, a dyma felly man cychwyn Lloegr yn y fasnach drionglog. Hefyd mae'r fordaith hon yn enghraifft o fordeithiau'r cyfnod oedd yn denu buddsoddwyr ac yn allweddol mewn datblygiad cyfalafiaeth.
Yr ail fordaith (1564–65)
[golygu | golygu cod]Mor lwyddiannus oedd mordaith gyntaf Hawkins, fe wnaeth sawl cymwynaswr cefnog gyllido ei ail fordaith. Un ohonynt oedd y Frenhines Elisabeth, a brydlesodd long ryfel 700-tunnell iddo o'r enw Jesus of Lubeck. Ym 1564, teithiodd Hawkins i Borburata, Feneswela, fel preifatîr. Cipiodd rhyw 400 o caethweision Affricanaidd ar ei daith, a theithiodd i Rio de la Hacha, Colombia, i'w gwerthu. Ymdrechodd y Sbaenwyr i'w atal rhag gwerthu'r caethweision, a bygythiodd Hawkins i losgi'r trefi. Aeth Hawkins i drefedigaeth Ffrengig yn Fflorida am seibiant ac oddi yno dychwelodd i Loegr ym 1566, gydag elw o 60% ar ei fordaith.
Y drydedd fordaith (1567–69)
[golygu | golygu cod]Yn Hydref 1567 hwyliodd Hawkins i arfordir Gorllewin Affrica ar y Jesus of Lubeck gyda llong frenhinol arall, y Minion, pedair llong lai o faint, a phinnas. Methiant fu y cyrch cyntaf i geisio cipio caethweision ger Cabo Verde, a lladdwyd wyth morwr gan saethau gwenwynig. O'r diwedd, llwyddodd Hawkins i gipio rhyw 400 o gaethweision Affricanaidd. Teithiodd Hawkins a Drake ar draws Cefnfor yr Iwerydd gyda'r caethweision, ac wedi iddynt werthu'r caethweision yn y Caribî, hwyliodd Hawkins i San Juan de Ulúa, ger Veracruz, Mecsico, i atgyweirio'i longau ac ail-lenwi'r stoc o ddŵr. Cafodd ei ragodi yn yr harbwr gan longau'r Sbaenwyr. Dim ond y llongau dan reolaeth Hawkins a Drake, dwy long allan o'r chwech a adawodd Lloegr, a lwyddodd i ddianc.[2] Bu farw rhyw 100 o Saeson yn yr ymosodiad hwnnw, ac arweiniodd at waethygiad yn y berthynas rhwng Lloegr a Sbaen.
Ei wasanaeth i'r Goron
[golygu | golygu cod]Pan ddychwelodd i Lundain, daeth Hawkins yn gyfeillgar â llysgennad Sbaen, o bosib tra'n gweithio fel asiant i'r Arglwydd Burghley. Dysgodd am fwriad cynllwyn Ridolfi (1571) i ddiorseddu Elisabeth a choroni Mari Stiwart yn frenhines Lloegr. Hysbysodd Hawkins y llywodraeth, ac arestiwyd y Pabyddion Seisnig oedd yn ymwneud â'r cynllwyn. Daeth yn Aelod Seneddol dros Plymouth.
Yn 1577, daeth Hawkins i olynu ei dad-yng-nghyfraith, Benjamin Gonson, yn swydd trysorydd y llynges. Fe'i cyhuddwyd gan ei elynion o ddefnyddio'i swydd er budd ariannol personol, a chafodd ei ryddhau o unrhyw fai gan ymchwiliad brenhinol. Hawkins oedd capten y Victory ac ôl-lyngesydd y lluoedd Seisnig yn erbyn Armada Sbaen (1588), a chafodd ei urddo'n farchog wedi'r frwydr. Yn 1589 fe'i penodwyd yn oruchwyliwr y llynges. Fel un o brif weinyddwyr y llynges Elisabethaidd, Hawkins oedd ar flaen y gad wrth wella'r ffyrdd o adeiladu llongau, arfogaethau, a chynlluniau rigin, ac efe a ddyfeisiai'r strategaeth o warchae o'r môr ar yr Azores i ragodi llongau trysor oedd ar eu ffordd yn ôl i Sbaen.[2]
Y fordaith olaf
[golygu | golygu cod]Hwyliodd Hawkins a Drake ar gyrch i drefedigaethau Sbaenaidd y Caribî yn 1595 gyda 27 o longau. Bu farw Hawkins ar ei long, y noson cyn iddynt ymosod ar Puerto Rico, a fe'i cleddir yn y môr ger yr ynys honno.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "Sir John Hawkins", Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar 11 Chwefror 2019.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Sir John Hawkins. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Chwefror 2019.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- James Alexander Wiliamson, Hawkins of Plymouth: a new history of Sir John Hawkins and of the other members of his family prominent in Tudor England (Llundain: Black, 1969).