Jean Stafford
Jean Stafford | |
---|---|
Robert Lowell, Jean Stafford, a Peter Taylor yn 1941. | |
Ganwyd | 1 Gorffennaf 1915 Covina |
Bu farw | 26 Mawrth 1979 White Plains |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, awdur storiau byrion |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Mountain Lion, The Collected Stories of Jean Stafford |
Tad | John Richard Stafford |
Mam | Mary Ethel McKillop |
Priod | A. J. Liebling, Robert Lowell, Oliver Jensen |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Pulitzer am Ffuglen, Gwobr O. Henry |
Awdures Americanaidd oedd Jean Stafford (1 Gorffennaf 1915 - 26 Mawrth 1979) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am nofelau a'i storiau byrion.[1][2]
Fe'i ganed yn California a bu farw yn White Plains, Efrog Newydd. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Colorado Boulder a Phrifysgol Colorado. Bu'n briod i A. J. Liebling ac yna i Robert Lowell. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Mountain Lion a The Collected Stories of Jean Stafford.[3][4][5]
Yr awdur
[golygu | golygu cod]Enillodd ei chyfrol The Collected Stories of Jean Stafford Wobr Pulitzer am Ffuglen yn 1970. [6]
Roedd ei nofel gyntaf, Boston Adventure, yn werthwr-gorau, gan ennill clod cenedlaethol.[7] Ysgrifennodd ddwy nofel arall yn ei gyrfa, ond ei phrif gyfrwng oedd y stori fer: cyhoeddwyd ei gweithiau yn The New Yorker ac amrywiol gylchgronau llenyddol.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd bywyd personol Stafford yn llawn anhapusrwydd. Bu'n briod deirgwaith. Gadawodd ei phriodas gyntaf, i'r bardd ansefydlog Robert Lowell, greithiau emosiynol a chorfforol cyson. Cafodd ei hanafu'n ddifrifol mewn damwain car gyda Lowell wrth y llyw, trawma a ddisgrifiodd yn un o'i straeon mwyaf adnabyddus, The Interior Castle, ac roedd yr anffurfiad corfforol a ddioddefodd o ganlyniad i'r ddamwaith yn drobwynt yn ei bywyd. Daeth ail briodas - i un o olygyddion y cylchgrawn Life, Jensen, i ben mewn ysgariad hefyd. Mwynhaodd Stafford gyfnod byr o hapusrwydd domestig gyda'i thrydydd gŵr, A. J. Liebling, awdur blaenllaw ar gyfer The New Yorker. Ar ôl ei farwolaeth, rhoddodd y gorau i ysgrifennu ffuglen.
Yr alcoholig
[golygu | golygu cod]Am nifer o flynyddoedd roedd Stafford yn dioddef o alcoholiaeth, iselder, a chlefyd yr ysgyfaint. Erbyn iddi fod yn 65 oed, yn 1979, roedd hi bron wedi rhoi'r gorau i fwyta a bu farw o ataliad y galon yn White Plains, Efrog Newydd.[8]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (1945), Gwobr Pulitzer am Ffuglen (1970), Gwobr O. Henry (1955)[9] .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The Mountain Lion". New York Review Books.
- ↑ Yardley, Jonathan (February 12, 2007). "Jean Stafford, Diamond in A Rough Life". The Washington Post.
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: "Jean Stafford". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jean Stafford". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jean Stafford". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jean Stafford". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jean Stafford".
- ↑ Dyddiad marw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Jean Stafford". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jean Stafford". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jean Stafford". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jean Stafford". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jean Stafford".
- ↑ Anrhydeddau: http://www.pulitzer.org/bycat/Fiction. dyddiad cyrchiad: 9 Mehefin 2015.
- ↑ Wesleyan.edu Archifwyd 2017-03-14 yn y Peiriant Wayback
- ↑ "Adventures in Abandonment". NYTimes.com. Cyrchwyd 2016-06-15.
- ↑ http://www.pulitzer.org/bycat/Fiction. dyddiad cyrchiad: 9 Mehefin 2015.