Irina Skobtseva
Gwedd
Irina Skobtseva | |
---|---|
Ganwyd | Ирина Константиновна Скобцева 22 Awst 1927 Tula |
Bu farw | 20 Hydref 2020 Moscfa |
Dinasyddiaeth | Rwsia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, athro drama |
Cyflogwr | |
Priod | Sergei Bondarchuk, Aleksey Adzhubey |
Plant | Alyona Bondarchuk, Fyodor Bondarchuk |
Gwobr/au | Artist Pobl yr RSFSR, Artist Haeddianol yr RSFSR, Urdd Cyfeillgarwch, Urdd Anrhydedd |
Roedd Irina Konstantinovna Skobtseva (Rwsieg: Ирина Константиновна Скобцева; 22 Awst 1927 – 20 Hydref 2020) yn actores o Rwsia. Hi oedd ail wraig y cyfarwyddwr ffilm Sergei Bondarchuk.[1]
Cafodd Skobtseva ei geni yn Tula, yn ferch i ysgolhaig. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Moscfa. Priododd Bondarchuk ym 1959. Roedd hi'n fam i'r actores Yelena Bondarchuk, a nain yr actor Konstantin Kryukov.
Bu farw Skobtseva yn sydyn, yn 93 oed.[2]
Ffilmiau
[golygu | golygu cod]- Seryozha (1960)
- Voyna i mir (1965-1967)
- Waterloo (1970)
- Vybor Tzeli (1974)
- Steppe (1977)
- Otets Sergiy (1978)
- Ovod (1980)
- Boris Godunov (1986)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Биография Ирины Cкобцевой". RIA Novosti.
- ↑ "Konstantin Kryukov went to the funeral of his grandmother Irina Skobtseva". NewsBeezer (yn Saesneg). 22 Hydref 2020. Cyrchwyd 29 Hydref 2020.