Neidio i'r cynnwys

Il trovatore

Oddi ar Wicipedia
Il trovatore
Alfredo Edel Colorno: Gwisg Manrico ar gyfer perfformiad yn La Scala, 1883
Enghraifft o'r canlynolgwaith drama-gerdd Edit this on Wikidata
Label brodorolIl Trovatore Edit this on Wikidata
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
Rhan otriawd poblogaidd Edit this on Wikidata
IaithEidaleg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1852 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1850 Edit this on Wikidata
Genreopera Edit this on Wikidata
CymeriadauIarll di Luna,, Leonora, Azucena, Manrico, Ferrando, Ines, Ruiz, Hen sipsi, Negesydd, Corws:Cyfeillion Leonora, lleianod, gweision lifrai'r Iarll, rhyfelwyr, sipsiwn Edit this on Wikidata
Yn cynnwysDi quella pira Edit this on Wikidata
LibretyddSalvadore Cammarano, Leone Emanuele Bardare Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afTeatro Tordinona Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af19 Ionawr 1853 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Enw brodorolIl Trovatore Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithBizkaia, Teyrnas Aragón Edit this on Wikidata
Hyd2.5 awr Edit this on Wikidata
CyfansoddwrGiuseppe Verdi Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Il trovatore (y trwbadŵr) yn opera mewn pedair act gan Giuseppe Verdi i libreto Eidaleg a ysgrifennwyd i raddau helaeth gan Salvadore Cammarano, yn seiliedig ar y ddrama El trovador (1836) gan Antonio García Gutiérrez. Drama fwyaf llwyddiannus Gutiérrez ydoedd.

Cynhaliwyd y perfformiad cyntaf yn y Teatro Apollo yn Rhufain ar 19 Ionawr 1853.

Heddiw, mae Il Trovatore yn cael ei berfformio'n aml ac mae'n rhan o brif arlwy'r repertoire operatig safonol.

Hanes cyfansoddi

[golygu | golygu cod]

Ers 1849 bu Verdi yn byw efo'r soprano Giuseppina Strepponi. Roedd hi'n gyfarwydd â drama'r awdur o Sbaen, García Gutiérrez, El trovador ac wedi ei chyfieithu i'r Eidaleg. Roedd Verdi yn hoff iawn o'r ddrama melodramatig. Cysylltodd â Salvadore Cammarano (ei gydweithiwr ar dair o'i operâu blaenorol) gan ofyn iddo ysgrifennu libreto yn seiliedig arno, er nad oedd unrhyw theatr wedi comisiynu'r gwaith. Roedd y libretydd yn anfodlon. Mae gohebiaeth Verdi gydag ef yn datgelu anghydweld rhyngddynt wrth i Verdi geisio ffordd newydd o gyflwyno'r ddrama ar ei thelerau ei hun, heb gyfyngiadau confensiwn operatig. Yn y pen draw, cynhyrchodd Cammarano waith wedi'i strwythuro'n gonfensiynol a oedd, serch hynny, wedi datrys rhai o'r heriau o ail-weithio drama gymhleth i opera gyflym, bwerus. Bu farw'r libretydd cyn cwblhau ei waith, a gorffennodd y bardd Eidalaidd Leone Emanuele Bardare y prosiect heb gredyd ffurfiol. Llwyddodd Verdi i berswadio Bardera i gynnwys rhai o'r elfennau roedd Cammarano yn anfodlon a hwy i mewn i'r gwaith.[1]

Hanes perfformiad

[golygu | golygu cod]
Plácido Domingo fel Iarll Luna gyda Riccardo Zanellato fel Ferrando a Chorws Opera Taleithiol Fienna yng Ngŵyl Salzburg 2014

Daeth poblogrwydd enfawr i'r opera (er ei fod yn llwyddiant poblogaidd yn hytrach nag yn un beirniadol). Cafwyd ryw 229 o gynyrchiadau ledled y byd yn y tair blynedd yn dilyn ei berfformiad cyntaf ar 19 Ionawr 1853.

Cafodd ei pherfformio gyntaf ym Mharis yn Eidaleg ar 23 Rhagfyr 1854 gan y Théâtre-Italien yn Salle Ventadour.

Cafodd Il trovatore ei berfformio gyntaf yn yr Unol Daleithiau gan Gwmni Opera Eidalaidd Max Maretzek ar 2 Mai 1855 yn yr Academi Cerddoriaeth yn Efrog Newydd. Cynhaliwyd ei berfformiad cyntaf yn y DU ar 10 Mai 1855 yn Y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden yn Llundain.

Wrth i'r 19eg ganrif fynd yn ei blaen, bu dirywiad mewn poblogrwydd y sioe, ond gwelodd Il trovatore adfywiad ar iddo gael ei hadfer gan Toscanini ym 1902.

Bu'n rhan o deithiau 2003, 2007 a 2011 Opera Cenedlaethol Cymru.[2][3]

Heddiw, mae bron pob perfformiad yn defnyddio'r fersiwn Eidalaidd ac mae'n un o operâu mwyaf poblogaidd y byd.

Yn Ffrangeg fel Le trouvère

[golygu | golygu cod]

Ar ôl cyflwyno'r opera yn Eidaleg yn llwyddiannus ym Mharis, cynigiodd François-Louis Crosnier, cyfarwyddwr l'Opéra de Paris, fod Verdi yn adolygu ei opera ar gyfer cynulleidfa Paris fel opera fawreddog, a fyddai'n cynnwys bale i'w chyflwyno ar lwyfan prif dŷ Paris. Gwnaed cyfieithiad o libreto Cammarano gan y libretydd Émilien Pacini o dan y teitl Le trouvère a chafodd ei berfformio am y tro cyntaf yn La Monnaie ym Mrwsel ar 20 Mai 1856. Yn dilyn y cynhyrchiad yn Salle Le Peletier yn Opera Paris ar 12 Ionawr 1857 dychwelodd i'r Eidal. Mynychodd yr Ymerawdwr Napoleon III a'r Ymerodres Eugénie y perfformiad olaf.

Ar gyfer y perfformiad cyntaf yn Ffrainc, gwnaeth Verdi rai newidiadau i sgôr Le trouvère gan gynnwys ychwanegu cerddoriaeth ar gyfer y bale yn act 3 a ddilynodd gytgan y milwyr, lle'r oedd sipsiwn yn dawnsio i'w diddanu.

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
Rôl Llais
Iarll di Luna, uchelwr yng ngwasanaeth Tywysog Aragon bariton
Manrico, trwbadŵr a swyddog ym myddin Tywysog Urgel tenor
Azucena, sipsi, yn ôl pob sôn, mam Manrico mezzo-soprano
Leonora, gwraig fonheddig, mewn cariad â Manrico ac yn cael ei charu gan Di Luna soprano
Ferrando, swyddog Luna bas
Ines, cyfrinachwraig Leonora soprano
Ruiz, hengsman Manrico tenor
Hen sipsi bas
Negesydd tenor
Corws:Cyfeillion Leonora, lleianod, gweision lifrai'r Iarll, rhyfelwyr, sipsiwn

Crynodeb

[golygu | golygu cod]

Act I: Y gornest

[golygu | golygu cod]

Golygfa I

[golygu | golygu cod]

Mae Ferrando, capten y gard, a'i ddynion yn sefyll wrth ddrws plasdy. Mae'r gwŷr yn ei warchod ar orchymyn Iarll di Luna, sy'n dymuno cipio trwbadŵr sydd wedi cael ei glywed, ar sawl achlysur, yn canu serenâd i'r Dduges Leonora, y mae gan yr Iarll teimladau serch, ond digroeso, iddi. Ar gais y dynion mae Ferrando yn adrodd hanes Garzia, brawd yr Iarll. Pan oedd yn dal i fod yn fabi, daethpwyd o hyd i Garzia gyda hen wrach sipsiwn yn ei grud. Cafodd ei gyrru i ffwrdd, ond methodd iechyd y bachgen a chredwyd bod y sipsiwn wedi ei felltithio. Cafodd y wrach dal a'i llosgi wrth y stanc. Tyngodd ei merch, Azucena, llw o ddial am farwolaeth ei mam. Ar ddiwrnod y dienyddio diflannodd Garzia ifanc a daethpwyd o hyd i weddillion llosg babi yn llwch angladd yr hen sipsiwn. Bu farw'r hen Iarll yn ddiweddarach, ac ni chlywyd dim ers hynny am Azucena, er y dywedir bod ysbryd ei mam wedi crwydro'r awyr min nos. Mae clychau'n canu ac yn tarfu ar y stori.[4]

Golygfa II

[golygu | golygu cod]

Yng ngerddi'r palas, mae Leonora yn cyfaddef i'w cyfaill Ines ei bod mewn cariad â dyn dirgel y cyfarfu â hi cyn dechrau'r rhyfel, ac mai ef yw'r trwbadŵr sy'n ei serenadu bob nos. Wedi iddyn nhw adael, mae Iarll di Luna yn ymddangos, yn chwilio am Leonora. Pan fydd yn clywed cân y trwbadŵr yn y tywyllwch, mae Leonora yn brysio i gyfarch ei chariad ond yn cofleidio di Luna ar gam. Mae'r trwbadŵr yn datgelu ei wir hunaniaeth: Ef yw Manrico, arweinydd lluoedd y partisaniaid gwrthryfelgar. Yn gynddeiriog, mae'r Iarll yn ei herio i ymladd gornest hyd farw.[5]

ACT II - Y Sipsi

[golygu | golygu cod]

Golygfa I

[golygu | golygu cod]

Wrth i'r sipsiwn ganu a gweithio eu hoffer, (gan canu Corws yr Eingion [6]) mae Azucena yn synfyfyrio ar ffawd ei mam, wedi'i llosgi fel gwrach.

Mae hi'n egluro'r amgylchiadau i Manrico (a oedd wedi ymadael yn ifanc i ddilyn ei uchelgeisiau, ac felly'n anwybodus o'r storï).

Mae Manrico'n sôn am y gornest rhyngddo ef a'r Iarll a sut bu iddo arbed ei fywyd. Roedd yn siŵr ei fod wedi clywed llais o'r nef a oedd yn ei orchymyn i beidio â'i ladd. Mae Azucena yn ei annog i daro heb oedi os bydd yr achlysur yn codi eto.

Mae Ruiz, cennad Tywysog Biscay, yn rhoi gorchymyn i Manrico i gymryd rheolaeth dros y lluoedd sy'n amddiffyn caer Castellor. Ar yr un pryd mae'n clywed y newyddion bod Leonora ar fin mynd i mewn i gwfaint, gan feddwl bod Manrico wedi marw. Gan wfftio protest Azucena ei fod yn rhy wan i deithio, mae'n rhuthro i ffwrdd i atal Leonora rhag dod yn lleian.[7]

Golygfa II

[golygu | golygu cod]

Mae'r Iarll yn penderfynu cipio Leonora cyn iddi gyflawni ei addewid i ddod yn lleian. Clywir lleianod yn canu yn y pellter wrth i Leonora ac Inez mynd i mewn i'r cwfaint. Wrth i'r Iarll ceisio cipio Leonora, mae Manrico yn ymddangos ac yn sefyll rhyngddynt ac mae ei ddynion yn amgylchynu’r Iarll. Mewn syndod mae, Leonora yn rhedeg i gofleidio Manrico.[8]

Act III: Mab y Sipsiwn

[golygu | golygu cod]

Golygfa I

[golygu | golygu cod]

Mae dynion yr Iarll yn paratoi i ymosod ar gaer Castellor. Mae Ferrando yn canfod Azucena yn crwydro ger y gwersyll. Mae o'n ei nabod hi fel y sipsiwn a daflodd frawd yr Iarll i mewn i'r tân. Mae hi'n cynddeiriogi'r Iarll ym mhellach trwy weiddi am ei mab Manrico i'w hachub. Mae'r Iarll yn orchymyn bod Azuenca i'w llosgi wrth y stanc fel dedfryd am ladd ei frawd.

Golygfa II

[golygu | golygu cod]

Mae Leonora yn paratoi ar gyfer ei phriodas i Manrico. Yn union fel y maent ar fin cyrraedd allor y capel, mae Ruiz yn dod i mewn gyda newyddion bod Azucena wedi ei chipio gan yr Iarll a'i bod wedi gorchymyn ei dienyddio. Mae Manrico yn gollwng llaw Leonora ac yn tynnu ei gleddyf, gan arwain ei ddynion i achub Azucena.

Act IV: Y Dienyddiad

[golygu | golygu cod]

Golygfa I

[golygu | golygu cod]

Mae cynllun Manrico i achub ei fam wedi methu. Mae ei ddynion wedi encilio, ac mae wedi cael ei ddal a'i daflu i mewn i gell. Mae Leonora yn cyrraedd i geisio ei achub, gan wisgo modrwy sy'n cuddio gwenwyn. Mae'r Iarll yn cyrraedd ac mae Leonora yn addo ei briodi ar yr amod ei fod yn rhyddhau Manrico. Mae'r Iarll yn cydsynio.

Golygfa II

[golygu | golygu cod]

Mae Leonora yn brysio i ddweud wrth Manrico ei bod hi wedi ennill ei rhyddid. Mae Manrico, yn gwylltio wrth glywed am ei fargen gyda'r Iarll ac yn ei chyhuddo o frad. Mae'r gwenwyn y mae hi eisoes wedi llyncu yn dechrau gweithio ac mae'n syrthio'n araf i'w marwolaeth. Mae'r Iarll yn mynd i'r gell ac yn canfod Leonora yn farw ym mreichiau ei chariad. Mae'r Iarll yn gorchymyn dienyddio Manrico yn syth ac yn galw Azucena i weld ei mab yn cael ei lladd. Wrth i'r ergyd farwol ddisgyn, mae Azucena yn dweud wrth yr Iarll ei fod newydd ladd ei frawd y mae wedi bod yn chwilio amdano gyhyd, ac o'r diwedd mae marwolaeth ei mam wedi cael ei ddial.[9]

Detholiad

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]