Henry Edward Manning
Henry Edward Manning | |
---|---|
Y Cardinal Henry Edward Manning | |
Ffugenw | Catholicus |
Ganwyd | 15 Gorffennaf 1808 Totteridge |
Bu farw | 14 Ionawr 1892 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | offeiriad Anglicanaidd, offeiriad Catholig, llenor, archdeaconry in Protestantism, deon, diacon |
Swydd | archesgob Westminster, cardinal |
Adnabyddus am | The True Story of the Vatican Council, The Eternal Priesthood |
Tad | William Manning |
Clerigwr yn yr Eglwys Gatholig o Loegr oedd Henry Edward Manning (15 Gorffennaf 1808 – 14 Ionawr 1892) a fu'n aelod blaenllaw o Fudiad Rhydychen, a wasanaethodd yn Archesgob Westminster o 1865 hyd at ei farwolaeth.
Ganed ef yn Totteridge, Swydd Hertford, yn fab i'r masnachwr a gwleidydd William Manning. Cafodd ei ordeinio'n offeiriad yn Eglwys Loegr ym 1833, a fe'i penodwyd yn Archddiacon Chichester ym 1840. Dylanwadwyd yn gryf ar Manning gan ddelfrydau'r Uchel Eglwys, a fe wrthwynebodd ymyrraeth y wladwriaeth mewn materion eglwysig, ac o'r herwydd felly câi ei wthio i ymarddel â Mudiad Rhydychen. Penderfynodd adael Eglwys Loegr o'r diwedd, mae'n debyg, yn sgil dyfarniad gan y Cyfrin Gyngor ym 1850 yn erbyn esgob a wrthododd benodi diwinydd Anglicanaidd, George C. Gorham, ar sail anuniongrededd.
Derbyniwyd Manning i'r Eglwys Gatholig Rufeinig ar 6 Ebrill 1851, a fe'i ordeiniwyd yn offeiriad Catholig gan y Cardinal Nicholas Wiseman ar 15 Mehefin 1851; caniatawyd hynny am i'w wraig farw ym 1837. Aeth i astudio diwinyddiaeth Gatholig yn Rhufain, a sefydlodd urdd Obladiaid y Sant Siarl ym 1857. Penodwyd Manning yn Archesgob Westminster, ac felly'n bennaeth ar yr Eglwys Gatholig yn Lloegr a Chymru, ym 1865, a fe'i dyrchafwyd yn gardinal ym 1875.[1]
Dan ei arweiniad, adeiladwyd sawl ysgol Gatholig yn Lloegr. Wltramontanydd pybyr—o blaid grymoedd ac uchelfreintiau'r Pab—oedd Manning, ac yng Nghyngor Cyntaf y Fatican fe ddadleuodd yn ffyrnig dros anffaeledigrwydd y Pab. Yn ystod streic y docwyr yn Llundain ym 1889, bu Manning yn cyflafareddu'n ddiduedd rhwng y streicwyr a pherchenogion y dociau. Bu farw'r Cardinal Manning yn Llundain yn 83 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Henry Edward Manning. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Medi 2022.