Neidio i'r cynnwys

Haile Selassie

Oddi ar Wicipedia
Haile Selassie
GanwydTäfäri መኮንን Edit this on Wikidata
23 Gorffennaf 1892 Edit this on Wikidata
Ejersa Goro Edit this on Wikidata
Bu farw27 Awst 1975 Edit this on Wikidata
o strangling Edit this on Wikidata
Addis Ababa Edit this on Wikidata
Man preswylImperial Palace, Addis Ababa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Ethiopia Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, teyrn Edit this on Wikidata
Swyddcadeirydd y Sefydliad Undod Affricanaidd, cadeirydd y Sefydliad Undod Affricanaidd, Ymerawdwr Ethiopia, Minister of Foreign Affairs of Ethiopia Edit this on Wikidata
GwrthwynebyddOpposition to Haile Selassie Edit this on Wikidata
TadMekonnen Welde Mikael Edit this on Wikidata
MamYeshimebet Ali Edit this on Wikidata
PriodMenen Asfaw Edit this on Wikidata
PlantY Dywysoges Tenagnework, Amha Selassie, Princess Romanework, Princess Zenebework, Princess Tsehai, Prince Makonnen, Tywysog Sahle Selassie o Ethiopia Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Solomon Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Groes y Lleng Anrhydedd, Urdd yr Eryr Gwyn, Urdd Rhosyn Wen y Ffindir, Order of Suvorov, 1st class, Uwch Groes Urdd y Condor o'r Andes, Hilal-e-Pakistan, Order of the Nile, Urdd Seren Mawr Iwgoslafia, Urdd seren Romania, Gwobr Heddwch y Cenhedloedd Unedig, Marchod Uwch Groes Urdd Milwrol Wiliam, Collar of the Order of Pope Pius IX, Uwch Groes Urdd Haul Periw, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Collar of the Supreme Order of the Chrysanthemum, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Uwch Groes Sash y Tair Urdd, Uwch Groes Urdd Filwrol y Tŵr a'r Cleddyf, knight of the Order of Saints Maurice and Lazarus, Order of the Eagle of Zambia, Urdd y Cymylau Ffafriol, honorary doctor of the University of Bonn, The honorary doctor of Lebanese University, Grand Cross of the Order of the Bath, Urdd y Gwaredwr, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta, Coler Urdd Siarl III, Knight grand cross of the order of the crown of Italy, Marchog Uwch Groes Urdd y Seintiau Maurice a Lasarus, Knight of the Order of the Most Holy Annunciation, Knight Grand Cross of the Colonial Order of the Star of Italy Edit this on Wikidata

Ymerawdwr Ethiopia o 1930 hyd 1974 oedd Haile Selassie (Ge'ez: ኃይለ፡ ሥላሴ, "Pŵer y Drindod"[1]), enw genedigol Tafari Makonnen (23 Gorffennaf, 1892 - 27 Awst, 1975). Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n byw ym Mhlasdy Penlle'r-gaer, Abertawe pan oedd wedi'i alltudio.

Pan ddiorseddwyd yr ymerawdwr Iyasu yn 1916, daeth ei fodryb Zewditu yn ymerodres, ac enwyd Tafari Makonnen yn aer i'r goron ac yn llywodraethwr y deyrnas.

Pan ddaeth yn ymerawdwr yn 1930 ar farwolaeth Zewditu, cymerodd yr enw Haile Selassie, sy'n golygu "Grym y Drindod". Yn ystod ei deyrnasiad o 45 mlynedd, gwnaeth Haile Selassie lawer i geisio moderneiddio Ethiopia, ac enillodd boblogrwydd mawr yn Affrica a thu hwnt. Daeth i amlygrwydd byd-eang yn 1936 trwy ei araith i Gynghrair y Cenhedloedd yn condemnio defnydd yr Eidal o arfau cemegol yn eu hymdrech i oresgyn Ethiopia.

Aeth Haile Selassie yn fwy ceidwadol wrth iddo heneddio, a theimlai carfan yn Ethiopia nad oedd y wlad yn cael ei moderneiddio'n ddigon cyflym. Bu gwrthryfel yn ei erbyn, a diorseddwyd ef ar 12 Medi 1974. Treuliodd ei fisoedd olaf yn garcharor yn y palas ymerodrol.

Cymer y mudiad Rastaffaraidd, a sylfaenwyd yn Jamaica yn y 1930au cynnar, ei enw oddi wrtho ef, "Ras ("tywysog) Tafari". Ystyria'r mudiad fod Haile Selassie yn ymgorfforiad o Iesu Grist.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gates, Henry Louis a Appiah, Anthony. Africana: The Encyclopedia of the African and African American Experience. 1999, tud 902.