Gwlff Taranto
Math | gwlff |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Môr Ionia |
Sir | Puglia, Basilicata, Calabria |
Gwlad | Yr Eidal |
Gerllaw | Môr Ionia |
Cyfesurynnau | 39.885°N 17.2769°E |
Gwlff y Môr Ionia yn ne'r Eidal yw Gwlff Taranto (Eidaleg: Golfo di Taranto).
Mae'r gwlff bron yn sgwâr o ran siâp, 140 km (87 milltir) o hyd ac o led. Dyma'r gwlff mwyaf yn yr Eidal, sy'n cael ei gwmpasu gan Capo Colonna i'r gorllewin a Phenrhyn Santa Maria di Leuca i'r dwyrain. Fe'i ffurfir gan arfordiroedd tri rhanbarth – Calabria, Basilicata a Puglia – a'u taleithiau cyfatebol – Lecce, Taranto, Matera, Cosenza a Crotone. Y tu mewn i'r gwlff mae Ynysoedd Cheradi.
Mae'r gwlff wedi'i enwi ar ôl dinas Taranto sy'n sefyll yn ei ganol. Yno lleolir porthladd cynwysyddion mawr a chanolfan llynges bwysig.
Mae'r Eidal yn hawlio'r gwlff cyfan fel dyfroedd cenedlaethol, ac felly ar gau i draffig rhyngwladol. Nid yw'r statws hwn yn cael ei gydnabod gan rai gwledydd eraill, megis yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ John B. Hattendorf, Naval Policy and Strategy in the Mediterranean: Past, Present, and Future (Llundain: 2000), t. 353
,