Guwahati
Gwedd
Math | dinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 1,116,267 |
Cylchfa amser | UTC+05:30 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Kamrup Metropolitan district |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 216 km² |
Uwch y môr | 51 metr |
Cyfesurynnau | 26.180588°N 91.750238°E |
Cod post | 781001 |
Prifddinas talaith Assam yng ngogledd-ddwyrain India yw Guwahati (ffurfiau amgen: Gauhati, Gawahati). Mae'n gorwedd ar lan Afon Brahmaputra. Ei hen enw oedd Pragjyotishpura a cheir cyfeiriad ati yn y Mahabharata. Heddiw mae'n ganolfan ranbarthol bwysig a amgylchynnir gan nifer o gerddi te. Mae'r diwydiant olew yn bwysig hefyd. Ceir nifer o demlau Hindŵaidd yn y ddinas. Mae'n gartref hefyd i Amgueddfa Talaith Assam.
Mae'r rheilffordd yn cysylltu Guwahati a dinasoedd New Jalpaiguri a Calcutta yng Ngorllewin Bengal.