Gruffudd Gryg
Gruffudd Gryg | |
---|---|
Ffugenw | Gruffudd Grug |
Ganwyd | 1310 Ynys Môn |
Bu farw | 1380 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bardd Cymraeg a oedd yn un o'r cywyddwyr cynnar oedd Gruffudd Gryg (ganed tua 1310 - bu farw tua 1380). Roedd yn canu yng nghyfnod Beirdd yr Uchelwyr ac yn cydoesi â Dafydd ap Gwilym.
Bywyd
[golygu | golygu cod]Ychydig a wyddys am y bardd. Roedd yn frodor o Ynys Môn, ac yn ei ei gywydd i saith mab Iorwerth ap Gruffudd o gwmwd Llifon ym Môn, awgrymir ei fod yn gyfaill neu'n berthynas iddynt. Lleolid cwmwd Llifon yng nghantref Aberffraw yn ne-orllewin yr ynys.[1]
Bu ymryson barddol rhyngddo ef a Dafydd ap Gwilym, yn cynnwys ffug-farwnadau i'w gilydd, gyda nifer o feirdd eraill yn ymuno. Yn ôl un o'i ddau ffug-farwnad i Ddafydd ap Gwilym, roedd Dafydd yn athro iddo:
- Disgybl wyf, ef a'm dysgawdd,
- Dysgawdr cywydd, huawdr cawdd.[1]
Mae ei lysenw cryg yn awgrymu bu ganddo ryw nam ar ei leferydd. Cyfeiria Dafydd ap Gwilym ato fel "y mab ataliaith" ac ymddengys fod Gruffudd yn baglu ar ei eiriau wrth siarad. Er hynny, tra'n cydnabod fod ganddo nam ar ei lais, mae'n taeru ei fod yn medru canu - h.y. datgan ei gerddi - yn ddilyffethair.[1] Ceir enghraifft arall o'r ffugenw yn enw bardd arall, sef Y Mab Cryg.
Cerddi
[golygu | golygu cod]Ymhlith ei weithiau eraill mae cerddi i sawl uchelwr yn y gogledd, cywydd i'r lleuad ac i'r don, cywydd moliant i Ynys Môn a chywydd yn crybwyll ei bererindod i Santiago de Compostela yn Sbaen.[2] Ceir yn ogystal disgrifiad merch, awdl i Dduw a chyfres o englynion.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Y golygiad safonol o'i waith erbyn heddiw yw:
- Barry J. Lewis ac Eurig Salisbury (gol.), Gwaith Gruffudd Gryg (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 2010)
Ceir golygiad o'r ymryson barddol rhwng Gruffudd Gryg a Dafydd ap Gwilym yn:
- Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1952)
Mae golygiadau eraill yn cynnwys:
- Ifor Williams a Thomas Roberts Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i gyfoeswyr (Evan Thomas, 1914)
- Wikisource: 'Yr Ywen Uwchben Bedd Dafydd'
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Bedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd