Neidio i'r cynnwys

Glaniad ar y Lleuad

Oddi ar Wicipedia
Y gofodwr Buzz Aldrin yn cerdded ar y Lleuad.

Glaniad ar y Lleuad (Saesneg: Moon landing) yw pan mae llong neu gerbyd gofod yn glanio ar arwyneb y Lleuad. Mae hyn yn cynnwys cerbydau gyda phobl a rhai hebddynt.

Y gwrthrych cyntaf a wnaed gan bobl i gyrraedd arwyneb y Lleuad oedd Luna 2 yr Undeb Sofietaidd ar 13 Medi 1959.[1] Roedd hynny yn dilyn methiant Luna 1 yn gynharach yr un flwyddyn. Yn 1962 y llwyddodd yr Unol Daleithiau hefyd i roi cerbyd - y Ranger 4 - ar y Lleuad.

Apollo 11 yr Unol Daleithiau oedd y cerbyd cyntaf â phobl arno i gyrraedd y Lleuad, a hynny ar 20 Gorffennaf 1969.[2] Mae pobl wedi glanio ar y lleuad chwe gwaith (pob un rhwng 1969 a 1972), a nifer lawer o gerbydau wedi glanio heb bobl ynddynt. Ni fu unrhyw laniadau meddal rhwng 22 Awst 1976 a 14 Rhagfyr 2013.

Mae cyfanswm o ddeuddeg o ddynion wedi glanio ar y Lleuad, pob un ohonynt wedi'i anfon yno gan yr Unol Daleithiau. Cafodd hyn ei gyflawni gyda dau beilot-ofodwr yn hedfan Modiwl Lleuadol ar bob un o'r chwe pherwyl NASA dros gyfnod o 41 mis yn dechrau ar 20 Gorffennaf 1969 UTC, gyda Neil Armstrong a Buzz Aldrin ar fwrdd Apollo 11, ac yn gorffen ar 14 Rhagfyr 1972 UTC gyda Gene Cernan a Jack Schmitt ar fwrdd Apollo 17. Cernan oedd y diwethaf i gamu oddi ar arwyneb y Lleuad.

Roedd gan bob un o'r perwylion Apollo drydydd aelod o'r criw a arhosodd ar fwrdd y Modiwl. Roedd gan y tri pherwyl olaf gerbyd crwydro i hwyluso symud o un lle i'r llall.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Luna 2". NASA–NSSDC.
  2. NASA Apollo 11 40th anniversary.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]