Neidio i'r cynnwys

Gemau Olympaidd yr Haf 1952

Oddi ar Wicipedia
Gemau Olympaidd yr Haf 1952
Enghraifft o'r canlynolGemau Olympaidd yr Haf Edit this on Wikidata
Dyddiad1952 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd19 Gorffennaf 1952 Edit this on Wikidata
Daeth i ben3 Awst 1952 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganGemau Olympaidd yr Haf 1948 Edit this on Wikidata
Olynwyd gan1956 Summer Olympics Edit this on Wikidata
LleoliadHelsinki Olympic Stadium, Helsinki Edit this on Wikidata
GwladwriaethY Ffindir Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://olympics.com/en/olympic-games/helsinki-1952 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 1952 (Ffineg: Kesäolympialaiset 1952; Swedeg: Olympiska sommarspelen 1952), digwyddiad aml-chwaraeon a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r XV Olympiad rhwng 14 Gorffennaf a 3 Awst yn Helsinki, Y Ffindir. Pan ymosododd Siapan ar Tsieina ym mis Gorffennaf 1937 cafodd y Gemau Olympaidd yr Haf 1940 eu symud i Helsinki, Y Ffindir ond yna fe'u canslwyd yn gyfan gwbwl wedi cychwyn yr Ail Ryfel Byd[1].

Helsinki ydi'r ddinas mwyaf gogleddol i gynnal Gemau Olympaidd yr Haf.

Dewis lleoliad

[golygu | golygu cod]

Llwyddodd Helsinki i ennill yr hawl i gynnal y Gemau mewn pleidlais yng nghyfarfod y IOC ym Stockholm, Sweden ar 21 Mehefin 1947. Los Angeles a Minneapolis oedd yn ail yn y bleidlais gydag Amsterdam, Athen, Chicago, Detroit, Lausanne Philadelphia a Stockholm hefyd yn gwneud cais.[2]

Y Gemau

[golygu | golygu cod]

Cafwyd athlewtwyr o 13 o wledydd am y tro cyntaf yng Ngemau Olympaidd 1952 gydag Antilles yr Iseldiroedd, Gana, Bahamas, Fietnam, Gwatemala Wlad Tai, Hong Cong, Indonesia, Israel, Nigeria Saarland Tseina a'r Undeb Sofietaidd yn cystadlu am y tro cyntaf.

Dychwelodd Yr Almaen a Siapan i'r Gemau ar ôl peidio cael gwahoddiad ym 1948 oherwydd eu rôl yn yr Ail Ryfel Byd. Roedd disgwyl i Orllewin yr Almaen a Dwyrain yr Almaen gystadlu fel un tîm ond ni chafwyd yr un athletwr o'r Dwyrain[1]. Dyma'r unig Gemau Olympaidd i Almaenwr fethu ag ennill medal aur[3].

Yn dilyn Rhyfel Cartref Tseina, tynnodd Gweriniaeth Tsieina (Taiwan) yn ôl rhag cystadlu yn y Gemau mewn protest i benderfyniad yr IOC i ganiatau athletwyr o Weriniaeth Pobl Tsieina i gystadlu[4].

Medalau'r Cymry

[golygu | golygu cod]

Casglodd Syr Harry Llewellyn, Cymro o Aberdâr, fedal aur fel aelod o dîm Neidio ceffylau Peydain Fawr. Roedd hefyd wedi ennill medal efydd fel aelod o'r tîm Neidio ceffylau ym 1948.[5].

Llwyddodd John Disley a anewd yng Nghorris i ennill medal efydd yn y Ras ffos a pherth 3000 metr [6] gyda Graham Dadds o Abertawe a John Taylor o Glwb Hoci Y Rhyl yn ennill medal efydd fel rhan o dîm Hoci Prydain Fawr[7].

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "1952 Summer Olympic Games". Olympedia.
  2. "IOC VOTE HISTORY". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 May 2008. Cyrchwyd 11 June 2008.
  3. "Germany at the 1952 Summer Olympic Games". Olympedia.
  4. "On This Day: 1952: 20 July: Zatopek wins gold at Helsinki". BBC News. Cyrchwyd 16 September 2015.
  5. "Harry Llewellyn". Olympedia.
  6. "John Disley". Olympedia.
  7. "Great Britain at the 1952 Summer Olympics". Olympedia.