Gévaudan
Math | talaith hanesyddol yn Ffrainc, siryddiaeth |
---|---|
Prifddinas | Javols |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Lozère |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 44.7°N 3.3°E |
Crefydd/Enwad | yr Eglwys Gatholig Rufeinig |
Un o daleithiau hanesyddol Ffrainc oedd Gévaudan (Ocsitaneg: Gavaudan neu Gevaudan). Yn ddiweddarach daeth yn département Lozère, sydd a ffiniau bron yr un fath.
Ceir nifer fawr o feini hirion a chromlechi o'r cyfnod cynhanesyddol yn yr ardal yma, yn arbennig Cham des Bondons ar lethrau Mynydd Lozère, sy'n un o'r safleoedd pwysicaf yn Ewrop.
Daw'r enw Gévaudan o enw llwyth Celtaidd y Gabales. Ymladdasanr dros Vercingetorix yn erbyn Iŵl Cesar. Yn y cyfnod Rhufeinig, roedd pedair dinasbwysig yma, y brifddinas Anderitum (yn awr Javols), Condate (Chapeauroux), Gredone (Grèzes) ac Adsilanum. Yn y Canol Oesoedd, daeth Mende yn bwysig.
Yn y 14g, daeth Gévaudan yn rhan o Languedoc, er gyda mesur o ymreolaeth. Yn 1790, daeth yn département Lozère. Mae'r ardal yn adnabyddus am hanes Bwystfil Gévaudan, anifeiliad tebyg i fleiddiaid a laddodd nifer sylweddol o bobl rhwng 1764 a 1767..