Ffilm ddrama ramantus
Enghraifft o'r canlynol | genre mewn ffilm |
---|---|
Math | ffilm ddrama, ffilm ramantus |
Prif bwnc | cariad |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Is-genre o ffilm sy'n cyfuno stori ramantus â nodweddion ffuglen ddrama yw ffilm ddrama ramantus neu ffilm ddrama ramant. Mae'n adrodd stori ddifrif, gyda chymeriadaeth ddofn, o gariad rhwng y prif gymeriadau, ac yn archwilio agweddau emosiynol a chymhleth ar ramant, perthnasau personol, a serch. Fe'i gwrthgyferbynnir â'r gomedi ramantus, sy'n canolbwyntio ar ddigrifwch a sefyllfaoedd ysgafn.
Nodweddir y ffilm ddrama ramantus gan angerdd a dyfnder emosiynol, ac archwiliad o themâu megis traserch, tor-calon, aberth, a chymhlethdodau teimladol. Er y gall drama ramantus gynnwys elfennau anarferol, yn gyffredinol mae'n anelu at bortread realistig o berthnasau rhamantus, gan ganolbwyntio ar yr heriau a'r adfyd a wynebai cyplau, a'r sefyllfaoedd dramatig sy'n deillio o'r fath drafferthion. Mae datblygiad y cymeriadau yn rhan dyngedfennol o'r ddrama, a'r nod yw i gadw diddordeb y gwyliwr mewn siwrnai emosiynol y cymeriadau wrth iddynt brofi uchafbwyntiau ac isafbwyntiau eu perthynas.