Ffatrïoedd Arfau'r Goron
Gwedd
Roedd Ffatrïoedd Arfau'r Goron (neu Ffatrïoedd Ordnans Brenhinol; Saesneg: Royal Ordnance Factories; ROFs) yn rhwydwaith o ffatrïoedd arfau a ffrwydron a grëwyd gan lywodraeth y DU ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd. Fe'u gweinyddwyd gyntaf gan y Weinyddiaeth Gyflenwi (Ministry of Supply), ac yn ddiweddarach gan y Weinyddiaeth Amddiffyn (Ministry of Defence), cyn cael eu preifateiddio yn 1987.
Adeiladwyd dros ddeugain o'r ffatrïoedd. Roedd mwyafrif y rhain wedi'i lleoli mewn ardaloedd yng ngorllewin a gogledd y DU, i leihau'r perygl o ymosodiad bombio o dir mawr Ewrop. Roedd saith ffatri ROF yng Nghymru:
- ROF Bridgend (Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Forgannwg)
- ROF Cardiff (Llanisien, Caerdydd, Sir Forgannwg)
- ROF Glascoed (Glasgoed, Sir Fynwy)
- ROF Hirwaun (Hirwaun, Sir Forgannwg)
- ROF Newport (Casnewydd, Sir Fynwy)
- ROF Pembrey (Pen-bre, Sir Gaerfyrddin)
- ROF Wrexham (Wrecsam, Sir Ddinbych)