Fallout76
Gêm fideo ar gyfer Microsoft Windows, PlayStation 4 ac Xbox1 yw Fallout76 a lansiwyd ar 14 Tachwedd 2018; fe'i datblygwyd gan Bethesda Game Studios a'i gyhoeddi gan Bethesda Softworks fel rhan o'r gyfres Fallout.
Dyma gêm gyntaf Bethesda ar gyfer aml-chwaraewr, ar gyfer chwarae arlein. Mae ar ffurf 'byd agored' sy'n dilyn rhyfel niwclear.
Gwerthiant
[golygu | golygu cod]Pan gyhoeddwyd Fallout 76 aeth yn syth i'r trydydd safle yn siartiau'r Deyrnas Unedig, yn syth o dan Spyro Reignited Trilogy a Red Dead Redemption 2.[1][2] Syrthiodd pris y gêm yng Ngogledd America, llai nag wythnos wedi iddo gael ei lansio, gyda rhai'n nodi i'r gostyngiad ddigwydd gan nad oedd y gwerthiant yn fawr.[3]
Bwyd a Dŵr
[golygu | golygu cod]Ceir sawl math o ddŵr yn Fallout76: dŵr wedi'i ferwi, dŵr budr a dŵr pur. Mae ymbelydredd ymhobman, yn ogystal â'r dŵr. Ar y tir gwastad, deuir o hyd i bethau i greu mathau gwahanol o ddiodydd fel te blodyn crameniat a sudd tato. Mae yna rai diodydd sydd yna cyn y rhyfel e.e. nuka cola, nuka cola cherry a nuka cola quantum.
Mae'r bwyd yn un or pethau bwysicaf sydd ei angen ar dir gwastraff.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Phillips, Tom (19 Tachwedd 2018). "Spyro sold more physical copies at launch than Fallout 76". Eurogamer. Gamer Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Tachwedd 2018. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2018. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ Moore, Ewen. "Fallout 76 Sales Down 82 Percent From Fallout 4". Unilad. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2018.[dolen farw]
- ↑ Tassi, Paul. "After A Historically Bad Launch, Is 'Fallout 76' Worth Saving?". Forbes. Forbes. Cyrchwyd 23 TAchwedd 2018. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help); Check date values in:|accessdate=
(help)