Epsom
Math | tref |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Epsom ac Ewell |
Daearyddiaeth | |
Sir | Surrey (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 18.04 km² |
Gerllaw | Afon Hogsmill |
Yn ffinio gyda | Ewell |
Cyfesurynnau | 51.3361°N 0.2675°W |
Cod OS | TQ2060 |
Tref fach yng ngogledd Surrey, De-ddwyrain Lloegr, sy'n enwog am ei chae rasio a'i hen ffynnon swlffwr, yw Epsom.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Epsom ac Ewell. Saif tua 16 milltir (26 km) i'r de-dde-orllewin o Charing Cross, yn Llundain.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Epsom boblogaeth o 31,474.[2]
Cynhelir y Derby bob blwyddyn ar y twyndir i'r gorllewin y dref. Yn ras y Derby 1913, taflodd y swffragét Emily Davison ei hunan dan geffyl Siôr V gan ladd ei hunan mewn protest yn erbyn diffyg pleidlais i ferched.
Mae'r dref wedi ymddangos yn rhestr deg uchaf o lefydd ble mae safon bywyd yn uchel (Halifax Quality of Life Survey 2011).[3]
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Coleg Epsom
- Eglwys Sant Martin
- Neuadd y Dref
- Tŵr y Gloch
- Tŷ Ebbisham
Enwogion
[golygu | golygu cod]- John Piper (1903-1992), arlunydd
- Petula Clark (g. 1932), cantores
- Alex Kingston (g. 1963), actores
- Mel Giedroyc (g. 1968), cyflwynydd teledu
- Tom Felton (g. 1987), actor
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 24 Mai 2020
- ↑ City Population; adalwyd 26 Mai 2020
- ↑ [1] Archifwyd 2012-01-10 yn y Peiriant Wayback This is London! Adalwyd 16 Awst 2012
Trefi
Addlestone ·
Ashford ·
Banstead ·
Camberley ·
Caterham ·
Chertsey ·
Dorking ·
Egham ·
Epsom ·
Esher ·
Farnham ·
Frimley ·
Godalming ·
Guildford ·
Haslemere ·
Horley ·
Leatherhead ·
Oxted ·
Redhill ·
Reigate ·
Staines-upon-Thames ·
Sunbury-on-Thames ·
Walton-on-Thames ·
Weybridge ·
Woking