Neidio i'r cynnwys

Don Giovanni

Oddi ar Wicipedia
Don Giovanni
Francisco D'Andrade yn chware Don Giovanni. Peintiad gan Max Slevogt, 1912
Enghraifft o'r canlynolgwaith drama-gerdd Edit this on Wikidata
Label brodorolDon Giovanni ossia Il dissoluto punito Edit this on Wikidata
IaithEidaleg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1787 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1787 Edit this on Wikidata
GenreDramma giocoso, opera Edit this on Wikidata
Cyfreslist of operas by Wolfgang Amadeus Mozart Edit this on Wikidata
CymeriadauDon Giovanni, Don Ottavio, Il Commendatore (Don Pedro), Leporello, Donna Anna, Zerlina, Donna Elvira, Masetto, Gwerinwyr Edit this on Wikidata
Yn cynnwysMadamina, il catalogo è questo, Batti, batti, o bel Masetto, Fin ch' han dal vino, Là ci darem la mano, Deh! vieni alla finestra, Don Giovanni, a cenar teco Edit this on Wikidata
LibretyddLorenzo Da Ponte Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afEstates Theatre Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af29 Hydref 1787 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Enw brodorolDon Giovanni ossia Il dissoluto punito Edit this on Wikidata
CyfansoddwrWolfgang Amadeus Mozart Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Don Giovanni yn opera dramma giocoso mewn dwy act a gyfansoddwyd gan Wolfgang Amadeus Mozart ym 1787. Ystyr y teitl yw cosbi'r oferwr. Mae'r opera yn adrodd hanes Don Juan oferwr a merchetwr chwedlonol a oedd wedi caru, yn ôl y son, gyda 1003 o ferched yn Sbaen yn unig. Mae'r opera hon yn son am berthynas Don Giovanni a thair ohonynt.[1]

Perfformiad cyntaf

[golygu | golygu cod]

Perfformiwyd Don Giovanni am y tro cyntaf yn Prag ar 29 Hydref 1787 o dan arweiniad Mozart. Chwaraewyd rhan Don Giovanni gan Luigi Bassi, rhan Don Pedro gan Giuseppe Lolli a rhan Donna Anna gan Teresa Saporiti yn y perfformiad cyntaf.

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
Cymeriad Llais
Don Giovanni, gŵr bonheddig ifanc, hynod ofer bariton
Il Commendatore (Don Pedro) Baswr
Donna Anna, merch Don Pedro Soprano
Don Ottavio, cariad Donna Anna Tenor
Donna Elvira, dynes o Burgos wedi ei adael gan Don Giovanni soprano
Leporello, gwas Giovanni Baswr
Masetto, gwerinwr Baswr
Zerlina, dyweddi Masetto soprano
Corws: gwerinwyr, gweision, merched ifanc, cerddorion, cythreuliaid

Wedi ei osod yn Sbaen y 17 ganrif. Don Giovanni yw'r arwr chwedlonol, Don Juan. Dyn sy'n ceisio ei lwc efo unrhyw fenyw, ond yn ymadael a'i gariadon yr eiliad mae merch ddeniadol arall yn troi fyny. Mae Don Giovanni wedi rhoi cyfarwyddyd i Leporello ei was, i warchod drws wrth iddo geisio cropian i mewn i ystafell wely Donna Anna. Ond, mae hi'n sgrechian.[2] Wedi clywed y sgrech mae ei thad, y Commendatore Don Pedro, yn dod i'w chymorth. Mae Don Giovanni yn ei drywanu i farwolaeth gyda dagr, ac mae'n ffoi o'i anfadwaith gyda Leporello.[3]

Does gan Don Giovanni dim teimlad o edifeirwch am ladd Don Pedro. Wrth iddo ffoi mae'n trio ei lwc efo dynes arall mae o'n mynd heibio ar y stryd. Donna Elvira un o'i gyn cariadon yw'r ddynes ar y stryd. Mae hi'n flin efo'i ymddygiad yn ceisio ei hudo eto wedi iddo ei rhoi hi heibio am fenyw arall. Mae Don Giovanni yn ei gwthio hi at Leporello ac yn ffoi eto. Mae Leporello yn ddweud wrth Elvira i beidio â gwastraffu teimladau ar Giovanni gan ei fod yn anffyddlon i bawb. Yn y gân Madamina, il catalogo è questo ("Madam dyma'r catalog") mae Leoprello yn ddweud bod ei feistr wedi caru 640 merch yn yr Eidal, 231 yn yr Almaen, 100 yn Ffrainc, 91 yn Nhwrci a 1,003 yn Sbaen.[4]

Y targed nesaf yw'r priodferch, Zerlina, gwerinwraig sydd ar fin priodi'r ffermwr, Masetto. Mae Don Giovanni yn hidio dim am geisio caru efo Zerlina ar ei ddiwrnod priodas. Mae Donna Anna a Don Ottavio, ei chariad, yn cyrraedd. Mae Don Ottavio a Donna Anna yn chwilio am lofrudd Don Pedro. Heb sylwi ei bod hi'n siarad gyda'r llofrudd, mae hi'n gofyn am gymorth Don Giovanni i'w canfod. Mae, Donna Elvira yn cyrraedd ac yn ddweud wrth Donna Anna a Don Ottavio bod Giovanni yn ferchetwr ffiaidd. Mae Don Giovanni yn ceisio perswadio Don Ottavio a Donna Anna bod Donna Elvira yn wallgof Non ti fidar, o misera - ("paid â choilio'r un truenus").

Wrth i Don Giovanni ymadael, mae Donna Anna yn ei adnabod fel yr un a ymosododd arni hi a'i thad.

Wedi clywed am ymgais Giovanni i hudo Zerlina mae Masetto yn llawn eiddigedd. Mae Zerilina yn ceisio ei dawelu ond mae Giovanni yn eu canfod ac yn beio Zerlina am beidio â gwarchod Zerlina. Mae'n perswadio'r ddau i fynychu dawns yn ei gastell. Mae tri gwestai mewn mygydau yn troi fyny i'r ddawns. Sef Don Ottavio, Donna Anna, a Donna Elvira yn chwilio am ddial.

Mae, Leporello yn tynnu sylw Masetto trwy ddawnsio gyda fo. Mae Don Giovanni yn arwain Zerlina i ystafell wely er mwyn ei threisio. Pan mae Zerlina yn gweiddi am gymorth mae Giovanni yn tynnu Leporello allan o'r ystafell ac yn ei feio ef am y trais. Dydy ei dwyll ddim yn gweithio ac mae Don Ottavio yn anelu dryll at Don Giovanni. Mae'r tri gwestai yn tynnu eu mygydau ac yn datgan pob dim maent yn gwybod am Don Giovanni. Mae Don Giovanni yn llwyddo ffoi eto.[2]

Mae Leporello yn bygwth Don Giovanni, ond mae ei feistr yn ei dawelu gyda chynnig arian iddo (Deuawd: Eh via buffone - "Dos y ffŵl"). Mae Giovanni am hudo morwyn Donna Elvira. Mae Donna Elvira yn dod i'r ffenest ac yn gweld Leporello yng ngwisg Giovanni ac yn ei ddilyn. Tra bod hi'n dilyn Leporello mae Don Giovanni yn serenadu'r forwyn gyda'i fandolin.[2]

Cyn i Don Giovanni llwyddo i hudo'r forwyn mae Masetto a'i gyfeillion yn troi fyny yn chwilio am Don Giovanni er mwyn ei ladd. Gan barhau i gogio mae Leporello ydyw, mae Giovanni yn ymuno gyda'r ymgais i chwilio amdano. Mae'n llwyddo i wasgaru ffrindiau Masetto (Don Giovanni aria: Metà di voi qua vadano - " Ewch hanner ohonoch acw"), mae Don Giovanni yn ymosod ar Masetto ac yn rhedeg i ffwrdd gan chwerthin.

Mae Leporello yn cael ei ddal yng ngwisg ei feistr ac yn cael ei gamgymryd am Giovanni. Mae o'n cael ei fygwth gan Donna Anna a Don Ottavio ac yn ffoi am ei fywyd.

Mae Leporello yn taro fewn i Don Giovanni mewn mynwent. Yn y fynwent mae cofeb ar ffurf cerflun o'r Commendatore Don Pedro. Mae'r gofeb wedi ysgythru a'r geiriau Rwyf yma yn disgwyl dial ar yr un a'm lladdodd. Mae Giovanni yn chwerthin ar y geiriau ond mae'r cerflun yn dechrau siarad gan ddweud wrth Giovanni na fydd ei chwarddi yn para hyd godiad yr haul. Mae Leporello yn brawychu ond mae Giovanni yn parhau i wawdio ac yn ddweud wrth y cerflun i ddod draw am ginio.

Gyda'r hwyrnos mae Don Giovanni yn mwynhau cinio ysblennydd. Mae'r cerflyn yn cyrraedd gan ganu Don Giovanni! A cenar teco m'invitasti - ("Don Giovanni! Cefais wahoddiad i giniawa gyda chi"). Mae'r cerflyn yn rhoi siawns arall i Giovanni i edifarhau a newid cwrs ei fywyd. Mae Giovanni yn gwrthod. Mae'r cerflun yn diflannu ac mae Don Giovanni yn bloeddio mewn poen ac ofn wrth i gorws o gythreuliaid ei amgylchynu ac yn ei arwain i lawr i'r Uffern.

Mae Leporello, sy'n cuddio o dan y bwrdd, hefyd yn sgrechian mewn ofn. Mae Donna Anna, Don Ottavio, Donna Elvira, Zerlina, and Masetto yn cyrraedd yn chwilio am y dihiryn. Mae Leporello yn ddweud be ddigwyddodd ac yn eu sicrhau na fydd neb yn gweld Don Giovanni eto.

Mae'r sioe yn darfod gyda chan sy'n egluro moeswers yr opera Questo è il fin di chi fa mal, e de' perfidi la morte alla vita è sempre ugual ("Dyna ddiwedd y drygionus: mae marwolaeth pechadur bob amser yn adlewyrchu ei fywyd").[5]

Detholiad

[golygu | golygu cod]
Teitl y gân Clip sain Artist
Agorawd Fulda Symphonic Orchestra
Madamina, il catalogo è questo Fernando Corena, Opera di Stato di Vienna (1955)
Eh via, buffone Fernando Corena, (Leporello), Cesare Siepi (Don Giovanni)
Metà di voi qua vadano Cesare Siepi (Don Giovanni)
Dalla sua pace Anton Dermota, Opera di Stato di Vienna (1955)
Batti, batti, o bel Masetto Adelina Patti
Don Giovanni, a cenar teco Kurt Böhme (Commendatore), Cesare Siepi (Don Giovanni),
Fernando Corena (Leporello); Opera di Stato di Vienna (1955)
Metà di voi qua vadano Orchestra dell Opera di Stato di Vienna

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Don Giovanni - Disgyddiaeth

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]