David Edward Hughes
David Edward Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 16 Mai 1831 y Bala |
Bu farw | 22 Ionawr 1900 Llundain |
Man preswyl | Bardstown, Bowling Green |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cerddor, dyfeisiwr, ffisegydd, cerddolegydd, athro |
Priod | Anna Merrill Chadbourne Morey Hughes |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Brenhinol, Commandeur de la Légion d'honneur, Medal Albert, Urdd y Goron Haearn (Awstria) |
Gwyddonydd, telynor a dyfeiswr o Gymru oedd David Edward Hughes (16 Mai 1831 – 22 Ionawr 1900) a anwyd yng Nghorwen neu o bosib Llundain.[1][2] Dyfeisiodd y teledeipiadur (neu'r telegraph) yn 1855 a'r meicroffon yn 1878.
Magwraeth ac addysg
[golygu | golygu cod]Ei dad oedd David Hughes o'r Bala a symudodd i Lundain. Gan iddynt symud o le i le, ni wyddys i sicrwydd ai yng Nghorwen ai Llundain y'i ganed.[3] Roedd yn frawd iau i'r telynor Joseph Hughes.
Ymfudodd gyda'i deulu i dalaith Virginia, U.D.A., pan oedd yn saith oed, a chafodd ei addysg yn S. Joseph's College, Bardstown, Kentucky. Pan oedd yn 19 dyrchafwyd ef yn athro prifysgol mewn cerddoriaeth yn y coleg hwnnw a'r flwyddyn ddilynol cafodd gadair gwyddoniaeth naturiol yno hefyd.
Gwaith y dyfeisydd
[golygu | golygu cod]Yn 21 oed dyfeisiodd 'delegraff printio' ag iddo nodweddion creadigol; gadawodd y coleg er mwyn canolbwyntio ar ddyfais a oedd yn cludo llais drwy weiren fetal, a gorffennodd y ddyfais yn 1855, cyn roi patent arni yn 1856. Ceisiodd ei marchnata (gan gynnwys taith i Loegr yn 1857 ac yna i Ffrainc) ond ni chafwyd fawr o ddiddordeb ynddi. Ond yn 1860 prynwyd y ddyfais gan Lywodraeth yr U.D. ac o fewn ychydig flynyddoedd roedd yn cael ei defnyddio drwy Ewrop; daeth y Hughes Telegraph System hefyd yn safon drwy Ewrop.[4]
Yn 1879 gwnaeth arbrawf ddiddorol a brofodd fod ymbelydredd electromagnetig yn bodoli, a hynny pan drosglwyddodd signalau radio o un pen i Great Portland Street, Llundain i'r llall. Roedd hyn wyth mlynedd cyn i Heinrich Hertz gael y clod am wneud yr un peth! Roedd hefyd, ugain mlynedd cyn darllediad radio Guglielmo Marconi. Ystyrir (ym myd gwyddoniaeth) fod y methiant o'i gydanabod yn gam mawr.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Mae Hughes yn un o'r gwyddonwyr gyda'r nifer mwyaf o anrhydeddau erioed. Yn eu plith y mae:
- Medal Aur Rhwysgfawr (Y Grand Gold Medal) a gyflwynwyd iddo yn y Paris Exhibition, 1867
- Medal Aur y Gymdeithas Frenhinol yn 1885
- Medal Aur Albert gan Gymdeithas Celfyddydau Prydain yn 1897
- Am ddyfeisio'r Teledeipiadur a'r meicroffon cyflwynodd Napoleon III anrhydedd Chevalier of the Legion of Honour gan ei wneud yn Commander of the Imperial Order of the Legion of Honour.
- Urdd Sant Meurice a Sant Lazare (gan yr Eidal)
- Urdd y Goron Haearn, a'r teitl 'Barwn' (gan Awstria)
- Urdd Santes Ann (Rwsia)
- Urdd Anrhydeddus Sant Michael (Bafaria)
- Cadlywydd Urdd FrenhinolCroes Fawr Medjidie (Twrci)
- Cadlywydd Urddau Carlos III (Sbaen)
- Seren Prif Swyddog Urdd Brenhinol Takovo (Serbia)
- Swyddog ac Urdd Brenhinol Leopold (Gwlad Belg).
Bu farw yn Llundain.
Patent
[golygu | golygu cod]- David E Hughes, Patent UDA Rhif 0014917; Telegraph (gyda'i allweddell yn nhrefn y wyddor a gydag argraffydd ei hun) 20 Mai 1856
- David E Hughes, Patent UDA Rhif 0022531; Duplex Telegraph 4 Ionawr 1859
- David E Hughes, Patent UDA Rhif 0022770; Printing Telegraph (with type-wheel) 25 Ionawr 1859
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Bywgraffiadur Arlein; Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 22 Ionawr 2017.
- ↑ Gwefan Cymru Fyw; adalwyd 4 Chwefror 2015
- ↑ Anon. "88. David Edward Hughes". 100 Welsh Heroes. Culturenet Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-14. Cyrchwyd 30 Mehefin 2009.
- ↑ Sarkar, T. K.; Mailloux, Robert; Oliner, Arthur A. (2006). History of Wireless. USA: John Wiley and Sons. tt. 260–261. ISBN 0471783013.