Daeargryn a tsunami Sendai 2011
Enghraifft o: | megathrust earthquake, tsunami, off Sanriku earthquake, multi-segment earthquake, Q18460157 |
---|---|
Dyddiad | 11 Mawrth 2011 |
Lladdwyd | 19,759 |
Rhagflaenwyd gan | March 2011 Sanriku earthquake |
Lleoliad | North Pacific Ocean |
Gwladwriaeth | Japan |
Hyd | 160 eiliad |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daeargryn ar raddfa 9.0 Mw a darodd Sendai yn Japan, am 14:46 amser lleol ar 11 Mawrth 2011 (05:46:23 11 Mawrth UTC) oedd Daeargryn Sendai 2011. Roedd yr uwchganolbwynt yn agos i Sendai ar yr ynys Honshu, tua 130 kilometr (81 milltir) i ffwrdd o draeth dwyreiniol Penrhyn Oshika, Tōhoku, gyda'r canolbwynt oddeutu 24.4 km (15.2 mi) o ddyfnder.[1]
Achosodd y daeargryn i tsunami godi a tharo'r tir mawr ychydig wedyn. Gwelwyd tonnau o hyd at 4-10 metr o uchder.
Ceir adroddiadau fod "trefi cyfan" wedi cael eu golchi i ffwrdd gan y tswnami, a bod 9,500 o bobl ar goll yn Minamisanriku;[2] a bod Kuji ac Ofunato wedi cael eu diddymu "heb olion o'u bodolaeth i'w weld yn unman."[3] Difrodwyd Rikuzentakata, Iwate, hefyd, ble y dywedir fod y tswnami yn dri llawr - o ran uchder.[4]
Effaith ar isadeiledd
[golygu | golygu cod]Atomfeydd
[golygu | golygu cod]Yn dilyn y ddaeargryn, diffoddodd yr adweithyddion niwclear mewn pedair atomfa o fewn yr ardal a effeithwyd yn awtomatig. Methodd systemau oeri y ddwy atomfa yn Fukushima, a dywedodd Cwmni Pŵer Trydanol Tokyo (TEPCO) ei fod yn pwmpio dŵr i brif adweithydd atomfa Fukushima-Daiichi er mwyn ei oeri. Ar 12 Mawrth bu ffrwydrad mawr yn atomfa Fukushima-Daiichi, ac anafwyd pedwar gweithiwr.[5]
Ymateb
[golygu | golygu cod]Ymateb rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Dywedodd David Cameron, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, bod y DU yn "barod i gynorthwyo mewn unrhyw modd y gallwn". Cynigwyd cymorth gan y grwpiau chwilio ac achub o Brydain International Rescue Corps a Rapid UK. Mae'r Cenhedloedd Unedig yn cydgordio'r gwaith achub gan 45 o wledydd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ <Gwefan Saesneg y BBC
- ↑ "Gwefan Saesneg The Mainichi Daily News". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-03-16. Cyrchwyd 2011-03-16.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-03-13. Cyrchwyd 2011-03-13.
- ↑ "Wiped off the map: The moment apocalyptic tsunami waves drown a sleepy coast town". Gwefan y Daily Mail.
- ↑ (Saesneg) Huge blast at Japan nuclear power plant. BBC (12 Mawrth 2011).
|