D. O. Fagunwa
D. O. Fagunwa | |
---|---|
Ganwyd | 1903 Ile Oluji/Okeigbo |
Bu farw | 9 Rhagfyr 1963, 7 Rhagfyr 1963, 1963 o boddi Bida |
Dinasyddiaeth | Nigeria |
Swydd | athro cadeiriol |
Adnabyddus am | Ogboju Ode ninu Igbo Irunmole |
Gwobr/au | MBE |
Llenor Nigeriaidd yn yr iaith Iorwba oedd Daniel Oròwọlé Ọlórunfẹ́mi Fágúnwà (tua 1903 – 9 Rhagfyr 1963) sy'n nodedig am arloesi'r nofel Iorwba.[1]
Ganed ef yn Okeigbo, ger Ondo, yn Ne Nigeria, a oedd dan brotectoriaeth yr Ymerodraeth Brydeinig. Mae'n debyg mai nofel gyntaf Fagunwa, Ògbójú Ọdẹ nínú Igbó Irúnmọlẹ̀ ("Yr Heliwr Dewr yng Nghoedwig y 400 Duw", 1938) oedd y nofel hir gynharaf i'w chyhoeddi yn yr iaith Iorwba. Mae ei nofelau eraill yn cynnwys Igbo Olodumare ("Coedwig Duw", 1949), Ireke Onibudo ("Cansen Siwgr y Gwarchodwr", 1949), Irinkerindo Ninu Igbo Elegbeje ("Ar Grwydr yng Nghoedwig Elegbeje", 1954), ac Adiitu Olodumare ("Cyfrinach yr Hollalluog", 1961), ac ysgrifennodd hefyd nifer o straeon byrion a dau deithlyfr.[1]
Mae ffuglen Fagunwa yn straeon picarésg gan amlaf, sy'n tynnu'n gryf ar elfennau llên gwerin Nigeria: ysbrydion, anghenfilod, duwdodau, ac hud a lledrith. Maent yn llawn antur a ffantasi, ac yn cyfuno digrifwch â moeswersi a doethineb y dihareb. Dylanwadwyd arno hefyd gan gysyniadau Cristnogol, gan gynnwys ei ddarlleniad o Taith y Pererin gan John Bunyan a gyfieithiwyd i Iorwba gan genhadon Prydeinig.
Bu farw D. O. Fagunwa ger Bida, oddeutu 60 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) D. O. Fagunwa. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Ionawr 2024.
- Genedigaethau'r 1900au
- Marwolaethau 1963
- Llenorion ffantasi Iorwba o Nigeria
- Llenorion ffuglen antur Iorwba o Nigeria
- Llenorion straeon byrion yr 20fed ganrif o Nigeria
- Llenorion straeon byrion Iorwba o Nigeria
- Llenorion taith yr 20fed ganrif o Nigeria
- Llenorion taith Iorwba o Nigeria
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o Nigeria
- Nofelwyr Iorwba o Nigeria