Neidio i'r cynnwys

Cytundeb Eingl-Wyddelig

Oddi ar Wicipedia
Cytundeb Eingl-Wyddelig
Enghraifft o'r canlynolcytundeb heddwch Edit this on Wikidata
Dyddiad6 Rhagfyr 1921 Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
LleoliadLlundain Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llofnodion Cytundeb Eingl-Wyddelig. Mae enwau'r Gwyddelod ar y dde. Nodir eu bod wedi llofnodi'r ddogfen gyda ffurfiau Gwyddelig eu henwau: Art Ó Gríobhtha - Arthur Griffith, Mícheál Ó Coileáin, Riobárd Bartún, Éamon Ó Dugáin a Seoirse Gabhán Ó Dubhthaigh

Arweiniodd arwyddo Cytundeb Eingl-Wyddelig (Saesneg: Anglo-Irish Treaty, Gwyddeleg: An Conradh Angla-Éireannach) 1921 ar y naill llaw at, ddiwedd ar Ryfel Annibyniaeth Iwerddon a hefyd rhannu'r ynys, gyda 6 sir yn sefydlu llywodraeth ddatganoledig Gogledd Iwerddon (a arhosai'n rhan o diriogaeth San Steffan) a 26 sir arall yn sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon a ddaeth, maes o law, yn Weriniaeth Iwerddon.

Cyd-destun

[golygu | golygu cod]

Ar 11 Gorffennaf 1921, datganwyd cadoediad rhwng yr IRA a llywodraeth Prydain. Roedd cyfanswm o 1,500 o bobl wedi eu lladd. Ym mis Awst, cynhaliwyd uwch-gynhadledd rhwng Éamon de Valera, pennaeth Sinn Féin gan ochr yr Iwerddon a David Lloyd George gan ochr Prydain. Fodd bynnag, penderfynodd de Valera beidio mynychu'r cyfarfod ei hun ac yn hytrach Michael Collins, Arthur Griffith, Robert Barton, Eamon Duggan a George Gavan Duffy, a gyfarfu â Lloyd George, Winston Churchill ac Arglwydd Birkenhead.

Yn gysgod ar y trafodaethau oedd bygythiad y Prydeinwyr y gall rhyfel fwy ail-ddechau pe na bai'r Gwyddelod yn derbyn y telerau. Cafwyd anghytuno hefyd dros y term a statws 'plenipotentwyr' (sef statws y ddirprwyaeth i wneud penderfyniadau yn y fan a'r lle). Roedd y term yn rhoi statws gwladwriaethol i'r Gwyddelod, statws nad oedd Prydain yn barod i'w dderbyn. Yn llygad Prydain, roeddynt yn trafod gydag Aelodau Seneddol unigol ac nid cynrychiolwyr Gweriniaeth sofran.

Roedd Collins yn fwy nag unrhyw un yn ymwybodol nad oedd yr IRA mewn sefyllfa i ennill y rhyfel o'r fath. Prif faen tramgwydd y Gwyddelod oedd tyngu llw i'r Brenin a datgymalu chwe sir o'r wladwriaeth newydd (er, roedd y Cytundeb yn nodi byddai Comisiwn Ffin yn cael ei sefydlu i ddatgan yn derfynol ar yr union setliad yma).

Arwyddwyd y Cytundeb ar 5 Rhagfyr 1921 ac ar 7 Ionawr 1922 cyflwynwyd hi i'r thrafod yn senedd Iwerddon, Dáil Éireann. Derbyniwyd y Cytundeb gan 64 pleidlais o blaid a 57 yn erbyn. Ymddiswyddodd de Valera, a oedd yn ei erbyn ef, ac fe'i disodlwyd gan Arthur Griffith.

Arweiniodd yr adrannau dwys rhwng cefnogwyr a gwrthwynebwyr y cytundeb at Ryfel Cartref Iwerddon a barodd rhwng Mehefin 1922 ac Ebrill 1923 ac a adawodd graith ar wleidyddiaeth y wladwriaeth newydd am ddegawdau i ddod. Yn wir dywedir i Birkenhead nodi Collins wrth iddo arwyddo'r Cytundeb, "Mr Collins, in signing this Treaty I'm signing my political death warrant", gyda Collins yn ateb yn broffwydol, "Lord Birkenhead, I'm signing my actual death warrant."[1]

Honodd Michael Collins yn hwyrach i Lloyd George fygwth y Gwyddelod ar y funud olaf gydag adferiad, "terrible and immediate war"[2] pe na bai'r Cytundeb yn cael ei harwyddo ar unwaith. Ni gofnodwyd hyn yn nhestun memorandwm y Gwyddelod ar ddiwedd y drafodaeth, ond, yn hytrach, fel sylw bersonol gan Lloyd George i Robert Barton. Dadleua nifer mai dim ond nodi realiti a deinameg torri cadoediad filwrol wnaeth Lloyd George.[3] Nododd Barton:

At one time he [Lloyd George] particularly addressed himself to me and said very solemnly that those who were not for peace must take full responsibility for the war that would immediately follow refusal by any Delegate to sign the Articles of Agreement.

Roedd yr holl ynys, mewn egwyddor, yn rhan o Wladwriaeth Rydd Iwerddon (Saorstát Éireann) pan grewyd fel nodwyd yn y Cytundeb ar flwyddyn wedyn, ar 6 Rhagfyr 1922 gan broclamasiwn brenhinol, unwaith byddai'r cyfansoddiad yn cael ei chymeradwyo gan Senedd Dros-dro Iwerddon a Senedd Prydain.[1] Ond mewn gwirionedd,ar 8 Rhagfyr, gwahanodd chwech o siroedd Ulster o'r Wladwriaeth rydd wedi iddynt bleidleisio o'r "Siambrau". [2]???

Prif Bwyntiau'r Cytundeb

[golygu | golygu cod]
Tudalen o'r Cytundeb gyda nodiadau Arthur Griffith

Ceir sawl prif bwynt i'r Cytundeb a arwyddwyd [4] gyda rhai'n ddigon di-dramgwydd ac eraill yn arwain at ddechrau Rhyfel Cartref Iwerddon.

  • Byddin Prydain i ildio o'r rhan fwyaf o Iwerddon.
  • Iwerddon i ennill hunan-lywodraeth fel rhan yr Ymerodraeth Brydeinig, gan dderbyn Statws Dominiwn fel yr un a gafwyd gan Canada, Newfoundland, Awstralia, Seland Newydd ac Undeb De Affrica.
  • Fel yn y gwledydd Dominiwn eraill, byddai'r frenhiniaeth Brydeinig dal i fodoli fel Pennaeth Gwladol y Wladwriaeth. Byddai Rhaglaw yn cael ei benodi ar gyfer y Wladwriaeth Rydd a byddai ei Gynrychiolydd yn arfer ei gynrychiolaeth.
  • Byddai seneddwyr y Wladwriaeth Rydd newydd yn tyngu llw o deyrngarwch i'r Wladwriaeth newydd a hefyd, yn ail ran y llw, i'r Brenin Sior V, ei etifeddion a'i olynwyr yn ôl y gyfraith, yn rhinwedd dinasyddiaeth gyffredin."
  • Byddai gan Ogledd Iwerddon (a grëwyd yn flaenorol gan gyfraith 1920) yr hawl i dynnu'n ôl o'r Wladwriaeth Rydd yn ystod y mis ar ôl i'r cytundeb ddod i rym.

Pe bai Gogledd Iwerddon yn dewis gadael y Wladwriaeth newydd, byddai Comisiwn y Gororau yn cael ei sefydlu i olrhain y ffin rhwng Gwladwriaeth Rhydd Iwerddon a Gogledd Iwerddon.

  • Byddai Prydain Fawr, am resymau diogelwch yn parhau i rheoli cyfres o borthladdoedd ar gyfer ei Llynges Frenhinol. Gelwir y porthladdoedd hyn yn "Borthladdoedd y Cytundeb".
  • Byddai Gwladwriaeth Rydd Iwerddon yn cymryd ei chyfrifoldeb dros dalu rhan o ddyled yr Ymerodraeth.
  • Byddai'r Cytundeb yn cael statws goruchaf mewn cyfraith Gwyddelig, sef, mewn achos o wrthdaro rhwng y cytundeb a Chyfansoddiad newydd Gwladwriaeth Rydd Iwerddon (a gymeradwywyd yn 1922) y Cytundeb fyddai'n cael blaenoriaeth.

Negodwyr

[golygu | golygu cod]
Arthur Griffith a Gweriniaethwyr Gwyddelig yn ystod trafodaethau Cytundeb Eingl-Wyddelig, 22 Hydref 1921

Y Deyrnas Unedig Brenhiniaeth Prydain Fawr

[golygu | golygu cod]
David Lloyd George, Prif Weinidog
Arglwydd Birkenhead, yr Arglwydd Ganghellor
Winston Churchill, Ysgrifennydd Gwladol y Treflannau
Austen Chamberlain
Gordon Hewart

Gweriniaeth Iwerddon Dirprywaeth Iwerddon

[golygu | golygu cod]
Arthur Griffith, Llywydd y ddirprwyaeth a Gweinidog Materion Tramor
Michael Collins, Ysgrifennydd Cyllid
Robert Barton, Gweinidog Materion Economaidd[3]
Eamonn Duggan
George Gavan Duffy

Cefnogaeth Ysgrifenyddol

Prydain - Thomas Jones, Lionel George Curtis
Iwerddon - Fionán Lynch, Diarmuid O'Hegarty, John Smith Chartres, Robert Erskine Childers, awdur nofel The Riddle of the Sands. Roedd yn gyn-swyddog o fewn gweinyddiaeth San Steffan a gweithredodd fel ysgrifennydd i'r ddirprwyaeth Wyddelig.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Furneaux Smith, Eleanor (1940). Life's a circus. Doubleday, Doran & Company, Inc. t. 142.
  2. The phrase was also cited as "immediate and terrible war". See: Collins M., "The Path to Freedom Notes by General Michael Collins", August 1922; Collins did not state that the remark was made solely to Barton, implying that the whole Irish delegation had heard it: "The threat of 'immediate and terrible war' did not matter overmuch to me. The position appeared to be then exactly as it appears now. The British would not, I think, have declared terrible and immediate war upon us."
  3. "Notes by Robert Barton of two sub-conferences held on December 5/6, 1921 at 10 Downing St". Cyrchwyd 15 May 2016.
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-14. Cyrchwyd 2018-12-07.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]