Neidio i'r cynnwys

Cosofo

Oddi ar Wicipedia
Cosofo
Republika e Kosovës
(Albaneg)
Mathgwladwriaeth unedol, gwlad dirgaeedig, gwladwriaeth a gydnabyddir gan rai gwledydd, gwlad Edit this on Wikidata
PrifddinasPrishtina Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,586,659 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 17 Chwefror 2008 Edit this on Wikidata
AnthemEwrop Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAlbin Kurti Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Albaneg, Serbeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDe Ddwyrain Ewrop, gwladwriaethau ôl-Iwgoslafia Edit this on Wikidata
LleoliadBalcanau Edit this on Wikidata
Arwynebedd10,909.02992 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAlbania, Gogledd Macedonia, Montenegro, Serbia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.55°N 20.83°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Cosofo Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Gwladwriaeth Cosofo Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Cosofo Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethVjosa Osmani Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Cosofo Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAlbin Kurti Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$9,412 million, $9,429 million Edit this on Wikidata
ArianEwro Edit this on Wikidata

Gwlad yn y Balcanau yn ne-ddwyrain Ewrop yw Cosofo[1][2] (Albaneg Kosovë/Kosova, Serbeg Косово и Метохија / Kosovo i Metohija). Yn y cyfrifiad diwethaf roedd gan Cosofo boblogaeth o 1,586,659 (2024)[3], sef tua hanner poblogaeth Cymru.

Hyd 17 Chwefror 2008 bu'n dalaith yn ne Serbia ac, fel Serbia ei hun, roedd yn rhan o'r hen Iwgoslafia. Ar ôl gwrthdaro chwerw rhwng Serbiaid ac Albaniaid yn y 1990au a achoswyd gan densiynau ethnig, mae'r dalaith yn cael ei gweinyddu gan y Cenhedloedd Unedig drwy UNMIK (United Nations Interim Administration Mission in Kosovo) ers diwedd Rhyfel Cosofo (1999). Ar 17 Chwefror 2008, cyhoeddodd llywodraeth Albanaidd y dalaith annibyniaeth, ond mae Serbiaid lleol (tua 10% o'r boblogaeth) yn gwrthod hynny.[4]

Cosofo

Y bobl

[golygu | golygu cod]

Mae mwyafrif y boblogaeth, tua 90%, yn Albaniaid. Mae canran yr Albaniaid wedi codi yn sgil Rhyfel Cosofo. Mae mwyafrif yr Albaniaid yn Fwslemiaid, er bod nifer ohonyn nhw'n Babyddion neu aelodau o'r Eglwys Uniongred. Mae'r Serbiaid yn gyffredinol yn Uniongredwyr.

Gwleidyddiaeth a statws gwleidyddol

[golygu | golygu cod]

Yn ôl penderfyniad rhif 1244 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, sefydlwyd gweinyddiaeth dros dro yng Nghosofo o dan arweinyddiaeth y Cenhedloedd Unedig i weinyddu'r dalaith, hybu hunanlywodraeth, cynorthwyo penderfyniad am statws dyfodol Cosofo, cynnal cyfraith a threfn, hybu hawliau dynol a helpu ffoaduriaid i ddychwelyd. Pennaeth yr UNMIK yw Cynrychiolydd Arbennig Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Joachim Rücker. Y cyn-benaethiaid yw Bernard Kouchner (Gorffennaf 1999 tan Ionawr 2001), Hans Haekkerup (Chwefror 2001 tan Rhagfyr 2001), Michael Steiner (Ionawr 2002 tan Gorffennaf 2003) Harri Holkeri (Awst 2003 tan Mehefin 2004), a Søren Jessen-Petersen (2004 tan Mehefin 2006).

Yn ôl cytundeb Rambouillet (Mawrth 1999), buasai Cosofo wedi hunanlywodraeth er iddi aros yn rhan o Serbia. Buasai Serbia wedi cytuno i gynnal etholiadau rhydd ac i adeiladu llywodraeth a system cyfreithiol teg. Gwrthododd Serbia llofnodi'r cytundeb, gan arwain at ymosodiadau gan awyrennau NATO yn ystod Mawrth-Mehefin 1999. O 2001 ymlaen, mae UNMIK wedi bod yn trosglwyddo pwerau i sefydliadau hunanlywodraethol Cosofo. Cynhaliwyd etholiadau ar gyfer Cynulliad Cosofo ym mis Tachwedd 2001, a enillwyd gan Gynghrair Democrataidd Cosofo (LDK). Daeth Ibrahim Rugova, oedd wedi arwain gwrthwynebiad i reolaeth Serbia yn ystod y 1990au, yn arlywydd, a Bajram Rexhepi (Plaid Ddemocrataidd Cosofo) yn brif weinidog.

Yr arlywydd presennol yw Behgjet Pacolli sy'n Annibynnwr. Yr arlywydd o 2006 hyd 2010 oedd Fatmir Sejdiu, arweinydd Cynghrair Democrataidd Cosofo. Bu farw ei flaenorydd, Ibrahim Rugova, ym mis Ionawr 2006. Y prif weinidog yw Agim Çeku, cyn-gadlywydd yn y Fyddin dros Ryddhâd Cosofo (KLA). Ar 17 Chwefror 2008, cyhoeddodd yr arlywydd a'r prif weinidog ill dau annibyniaeth lwyr oddi wrth Serbia yn dilyn pleidlais yn senedd Cosofo.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1718 [787: Kosovo].
  2. BBC Cymru'r Byd
  3. https://askapi.rks-gov.net/Custom/1d268e37-5934-4bd5-bbd1-34a9965cff92.pdf.
  4. Reuters/Yahoo: Kosovo yn datgan annibyniaeth

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]