Cortado
Math | diod boeth, coffi gyda llaeth poeth, diod coffi |
---|---|
Yn cynnwys | espresso, llaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r cortado neu'n o'i alw'n gywir llawn, Café cortado, yn derm Sbaeneg am ddiod coffi ar sail espresso gyda swm bach o laeth fel arfer yn boeth i gael gwared â chwerwder y coffi.[1][2] Mae'r llaeth mewn cortado wedi ei ageru ond ddim yn ewynnog nac wedi ei "melfedu" mewn mewn sawl diod espresso Eidalaidd.[3] Y gair cortado yw rhangymeriad gorffennol y ferf "cortar" y ferf Sbaeneg "i dorri", yn yr ystyr "gwanedig", a gall gyfeirio'n amrywiol at naill ai diodydd coffi neu espresso ledled gwledydd Sbaeneg a Phortiwgaleg.
Mewn rhai llefydd yn Sbaen caiff ei alw'n cortado con leche i'w wahaniaethu o'r cortado con agua (cortado â dŵr). Mae'r cortado (gyda llaeth) yn cynnwys espresso syml gyda mwy o ewyn nag a geir mewn Caffè macchiato sydd yn debyg ac yn wreiddiol o'r Eidal.
Paratoi a gwasanaeth
[golygu | golygu cod]Gwneir cortado gyda joch o espresso ac yna ychydig bach o laeth wedi'i stemio ag ewyn llaeth neu, yn syml, y llaeth yn boeth heb ewyn, (fel sy'n addas i'r cwsmer neu arfer y caffe). Gweinir y cortado yn aml gyda llwy de o goffi mocca gydag siwgr, fel arfer o'r amrywiaeth blanquilla.[1][2] Mae'r llaeth mewn cortado wedi ei ageru ond ddim yn ewynnog nac wedi ei "melfedu" mewn mewn sawl diod espresso Eidalaidd.[3]
Mae'r cortado rhyngwladol, fel y'i gelwir, yn cael ei weini mewn cwpan fach o goffi mocca, gydag joch (neu lai, i weddu i'r cleient) o Caffè lungo, a fydd yn cael ei weini â soser a llwy de o mocca, yn ogystal â amlen o siwgr neu felysydd. Bydd y cwsmer yn cael cynnig jar gyda llaeth poeth neu oer y bydd y cwsmer yn ei ychwanegu at y coffi os yw am gael llai o chwerwder ynddo. 3
Enwau ac amrywiadau eraill
[golygu | golygu cod]Mae'r cortado yn boblogaiff yn Sbaen a Portiwgal a ceir amrywiaethau enwau ar yr un ddiod ar draws y tiroedd Hispanoffôn:
- Gwledydd Catalaneg - fe'i gelwir yn tallat o trencat
- Gwlad y Basg - fe'i gelwir yn ebaki, sef y gair Basgeg am "torri", mae'n calque o'r Sbaeneg "cortado"
- Yr Eidal - defnyddir y term Caffè macchiato i ddisgrifio diod tebyg ond sydd fel rheol ond yn cynnwys llwyaid o laeth twym fel "brech" ar y coffi (ystyr 'macchiato' yw "brech"). Mae'r coffi yma yn boblogaidd yn fyd-eang ac yn aml yn cael ei ddefnyddio yn ddiwahan i'r cortado, yn enwedig gan bod chwaeth tramor yn aml yn gofyn am fwy o laeth na dim ond smotyn brech macchiato traddodiadol.[3]
- Colombia - gelwir yn pintado neu perico
- Ciwba a Puerto Rico - arddelir y term cortadito
- Venezuela - fe'i gelwir yn marrón ("brown") i'w wahaniaethu oddi ar espresso a elwir yn café negro ("coffi du") neu'n syml, negrito ("du")
- Ceir hefyd amrywiadau eraill sef; cortado condensada (cortado gyda llaeth cyddwysedig) a cortado leche y leche ("llaeth a llaeth" h.y. gyda llaeth cyddwysedig a hufen).
Gibraltar
[golygu | golygu cod]Tarddodd yr enw gibraltar yn San Francisco, California, lle cychwynnodd rhostwyr - y Blue Bottle Coffee Company gyntaf, yna Ritual Coffee Roasters ac eraill - y duedd o dorri trwy weini'r ddiod yn llestri gwydr Cwmni Gwydr Libbey o'r un enw.[2][4]
Er bod "cortado" yn derm ehangach ar gyfer llawer o ddiodydd wedi'u torri, mae Gibraltar wedi'i ddiffinio'n benodol yn ei gyfrannau gan gyfyngiadau maint ei gwpan: mae gwydr 'Gibraltar' Libbey yn cynnwys 4.5 oz, y mae 2 oz ohono wedi'i lenwi ag espresso dwbl. safonol ac mae'r gweddill wedi'i lenwi â microfoam wedi'i integreiddio'n dda. Fe'i datblygwyd fel diod proffil sydd ar gael yn rhwydd i'w fwyta ar unwaith, ac yn nodweddiadol gellir ei adnabod o'r cortado fel un sydd â gwead cyfoethocach, melfedaidd a thymheredd oerach, cynhesach.[5]
Lágrima
[golygu | golygu cod]Mae'r lágrima yn goffi bychan gyda'r cyfrannau'n cael eu gwrthdroi. Mae'n cael ei baratoi gyda pocillo wedi'i lenwi â llaeth poeth lle mae ychydig bach o goffi yn cael ei dywallt (lágrima yw "deigryn" yn Gymraeg).[6][7] Mae'n boblogaidd yn yr Ariannin ymhlith pobl sydd angen lleihau'r asidedd a gynhyrchir gan goffi.
Piccolo
[golygu | golygu cod]Yn Awstralia, a bellach sawl lle ym Mhrydain, fe'i gelwir yn latte piccolo, neu'n syml piccolo (sef "bychan" yn Eidaleg).[8] Dyma un joch o Caffè ristretto mewn gwydr macchiato sy'n cael ei lenwi â llaeth wedi'i stemio yn yr un modd â latte.
Diod fwy, sy'n boblogaidd ym Mhortiwgal, yw'r galão, sy'n defnyddio cymarebau 1:3, ond mae'n debyg i'r cortado a'r macchiato.
Gellir defnyddio'r term café cortado mewn gwirionedd yn gyfnewidiol â'r macchiato Eidalaidd neu'n debyg i'r noisette Ffrengig.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Nguyen, Tien (February 10, 2011), "Drink This Now: Cognoscenti Coffee's On-the-Menu Cortado", LA Weekly, https://www.laweekly.com/drink-this-now-cognoscenti-coffees-on-the-menu-cortado, adalwyd July 29, 2012
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Strand, Oliver (March 4, 2010), "A Cortado Is Not a Minivan", T: The New York Times Style Magazine, http://tmagazine.blogs.nytimes.com/2010/03/04/ristretto-a-cortado-is-not-a-minivan/
- ↑ 3.0 3.1 Shilcutt, Katharine (August 8, 2013), "What's The Difference Between a Flat White and Cortado?", Houstonia, https://www.houstoniamag.com/articles/2013/8/28/whats-the-difference-between-a-flat-white-and-cortado-august-2013
- ↑ Daniel Young (March 2009), Gibraltar, San Francisco's Cult Coffee, Comes to London, archifwyd o y gwreiddiol. Error: If you specify
|archiveurl=
, you must also specify|archivedate=
, https://web.archive.org/web/20160120060642/http://youngandfoodish.com/coffee/gibraltar-san-franciscos-cult-coffee-comes-to-london/ - ↑ Peleg, Oren (June 9, 2017), "So, What's The Difference Between A Flat White, A Cortado And A Cappuccino?", LAist, https://laist.com/2017/06/09/coffee_breakdown.php, adalwyd 2021-11-19
- ↑ "Ecco le Differenze tra Caffè Cortado e Caffè Macchiato". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-19. Cyrchwyd 2021-11-19. Unknown parameter
|fetch=
ignored (help) - ↑ "Caffè cortado: dall'Argentina al resto del mondo". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-19. Cyrchwyd 2021-11-19. Unknown parameter
|fetch=
ignored (help) - ↑ "What is a Piccolo Latte?", Cafe Culture, August 15, 2011, http://www.cafeculture.com/general-interest/what-is-a-piccolo-latte, adalwyd 2021-11-19
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Fideo, 'Cortado coffee |Barista Training | How to make cortado coffee'
- Fideo, 'All Espresso Drinks Explained: Cappuccino vs Latte vs Flat White and more!'