Codecs
Math | llawysgrif, arteffact archaeolegol, arteffact |
---|---|
Yn cynnwys | finish |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llawysgrif ar ffurf llyfr yw codecs (lluosog: codecsau; Lladin: codex). Yn yr Henfyd, ffurf arferol dogfen o unrhyw hyd sylweddol oedd y sgrôl, sef darn di-dor, hir o bapyrws neu femrwn a fyddai'n cael ei rolio i'w gadw'n ddiogel. Mae'n ymddangos bod y syniad o ysgrifennu ar ddalenni o bapyrws neu femrwn o'r un maint a'u rhwymo rhwng cloriau i mewn i un gyfrol wedi datblygu yn y 1g OC. Mae'r disgrifiad cyntaf o'r peth newydd hwn i'w gael yn ysgrifau bardd Rhufeinig Martial (tua 38–104 OC), a ganmolodd y codecs am ei hwylustod. Mae ymlediad y codecs yn gysylltiedig â chynnydd Cristnogaeth, a fabwysiadodd y fformat ar gyfer y Beibl yn gynnar.[1] Erbyn y 6g roedd y codecs wedi disodli'r sgrôl yn yr Ymerodraeth Rufeinig.
Er y gallai llyfrau printiedig modern gael eu galw'n godecsau, mae'r enw wedi'i gadw ar gyfer llyfrau llawysgrifau yr Henfyd a'r Oesoedd Canol yn unig.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Colin H. Roberts a T. C. Skeat, The Birth of the Codex (Llundain: Oxford University Press, 1983), tt. 15–22