Cenia
Gweriniaeth Cenia Jamhuri ya Kenya (Swahili) | |
Arwyddair | Cenia Lledrithiol |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad |
Enwyd ar ôl | Mynydd Cenia |
Prifddinas | Nairobi |
Poblogaeth | 48,468,138 |
Sefydlwyd | 12 Rhagfyr 1964 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr) |
Anthem | Ee Mungu Nguvu Yetu |
Pennaeth llywodraeth | William Ruto |
Cylchfa amser | UTC+03:00, Africa/Nairobi |
Gefeilldref/i | Cheltenham |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Swahili, Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dwyrain Affrica |
Gwlad | Cenia |
Arwynebedd | 581,309 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | Ethiopia, Somalia, Tansanïa, Wganda, De Swdan, Swdan, Y Cynghrair Arabaidd, Llyn Victoria |
Cyfesurynnau | 0.1°N 38°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Cenia |
Corff deddfwriaethol | Senedd Cenia |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Cenia |
Pennaeth y wladwriaeth | William Ruto |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Cenia |
Pennaeth y Llywodraeth | William Ruto |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $109,704 million, $113,420 million |
Arian | swllt Cenia |
Canran y diwaith | 9 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 4.334 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.575 |
Gwlad yn nwyrain Affrica yw Gweriniaeth Cenia neu Cenia[1] (hefyd Cenya). Mae'n ffinio â Somalia i'r gogledd-ddwyrain, Ethiopia i'r gogledd, De Swdan i'r gogledd-orllewin, Wganda i'r gorllewin, Tansanïa i'r de a Chefnfor India i'r de-ddwyrain. Nairobi yw'r brifddinas.
Diwylliant
[golygu | golygu cod]Mae Cenia yn wlad llawn o rhan ei Ddiwylliant, ac mae ganddi nifer o wahanol ddiwylliannau, megis Swahili ar yr arfordir, cymunedau pastoralaidd yn y gogledd, ac nifer o wahanol gymunedau yn bod yn y gorllewin ac yng nghanol y wlad. Heddiw, mae'r ddiwylliant Maasai yn adnabyddus, oherwydd ei fod wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd er ei fod yn lwyth lleiafrifol. Maent yn adnabyddus iawn oherwydd y ffordd maen nhw'n addurno eu cyrff ac am y gemwaith maen nhw'n ei wwisgo.
Gwisg cenedlaethol
[golygu | golygu cod]Heblaw am y faner genedlaethol, dal i chwilio am wisg addas mae pobol Cenia. Gan fod o leiaf 42 cymuned ethnig i gael yng Nghenia, a phob un ohonynt a symbolau amrywiol sydd yn gwneud hwy yn unigryw, mae dylunio gwisg a fydd yn iawn i bawb wedi profi i fod yn dasg anodd iawn i bobl yn y gorffennol.
Yr ymgais diweddaraf oedd y 'Sunlight quest for Cenia's National Dress', wedi'i noddi gan Unilever. Fe gafodd dyluniad ei ddewis, ac er cafodd ei ddadorchuddio mewn seremoni cyhoeddus gyda pobl enwog yn modelu'r wisg, ni wnaeth y dyluniad afael gyda pobol Cenia.
Mae Kitenge, sef defnydd cotwm wedi'i wneud mewn i nifer o wahanol liwiau, yn cael ei ddefnyddio gan nifer o bobol Cenia fel gwisg genedlaethol, ond er ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn nifer o wledydd Affrica, dydy hi dal ddim yn wisg cenedlaethol eto, gan ei fod yn cael ei wisgo'n amlach mewn seremonïau. Mae'r Maasai yn gwisgo darnau o goch tywyll i ddangos ei cariad am y ddaear ac eu dibyniaeth arno. Mae hefyd yn sefyll am ei gwaed ac am ei gwroldeb. Mae'r Kanga neu Lesso yn ddefnydd arall sy'n cael ei ddefnyddio yn y mwyafrif o gartrefi Cenia. Mae'r Kanga yn wisg rhwng 1.5 ac 1 medr o hyd, gyda dywediadau Kiswahili neu Saesneg arno, sydd yn cael ei wisgo gan ferched yn amlaf o gwmpas ei cyrff. Mae hefyd yn gallu cael ei defnyddio fel ffedog, blanced neu sling i gario plentyn bach.
Cerddoriaeth
[golygu | golygu cod]Mae Cenia yn wlad llawn cerddoriaeth o bob steil, o gerddoriaeth o wlad arall, megis afro-fusion ac benga, i gerddoriaeth gwerin. Y gitâr yw'r offeryn mwyaf poblogaidd yng Nghenia, ac mae'n cael ei ddefnyddio mewn nifer o rhythmau. Y gitarydd enwocaf yn yr 20g cynnar oedd Fundi Konde. Mae cerddorion eraill o'r 60au yn cynnwys Fadhili Williams, sef canwr y gân 'Malaika' a gafodd ei ail-wneud yn hwyrach gan Miriam Makeba, Boney M. ac Daudi Kabaka.
Fe all cerddoriaeth poblogaidd yn yr 80au a'r 90au cael ei rhannu i ddau ffurf, y sŵn Swahili a'r sŵn Congolese. Mae hefyd steiliau amrywiol yn dibynnu ar ardaloedd gwahanol, ac mae rhai perfformwyr yn gwneud cerddoriaeth i apelio at dwristiaid, ac un enghraifft o hwn yw'r grŵp - Them Mushrooms.
Yn ddiweddar, mae dau ffurf arall wedi dod i'r golwg - Genge a Kapuka. Mae hwn wedi chwildroi cerddoriaeth poblogaidd Cenia, ac wedi creu math newydd o gerddoriaeth yn fwy at y genhedlaeth ifanc. Mae rhai pobl sy'n enwog am y math yma o gerddoriaeth yn cynnwys Poxi Presha, (Otonglo time) Kalamashaka a K-South.
Mae rhai cerddorion fel Nameless, Redsan, Necessary Noise, Wawesh, Nonini, Juacali, Kleptomaniax, Longombas, Suzannah Owiyo, Achieng Abura ac nifer eraill yn canu mewn steil Reggae, Pop, Afro-fusion ac Hip-Hop. Mae rhai o'r cerddorion hefyd yn ysgrifennu can yn gymysgedd o eiriau Swahili ac Saesneg.
Mae'r Kisima Music Awards sydd yn arddangos holl dalentau cerddorol Dwyrain Affrica wedi'i leoli yng Nghenia, ac bob blwyddyn, mae nifer o gerddorion Cenia yn ennill gwobrau yn y digwyddiad pwysig yma.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, [Cenia].