Celli'r Gadeirlan
Gwedd
Math | parc taleithiol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Regional District of Nanaimo |
Gwlad | Canada |
Arwynebedd | 301 ha |
Cyfesurynnau | 49.29°N 124.661°W |
Mae Celli'r Gadeirlan (Saesneg: Cathedral Grove) yn rhan o fforest Ffynidwydden Douglas ar Ynys Vancouver, Canada. Maint y coed yw 157 hectar, ac mae’r coed mwyaf tua 800 mlwydd oed, a hyd at 75 medr o uchder. Maent wedi goroesi tân mawr tua 350 blynedd yn ôl[1] a storm fawr ym 1997[2]. Mae hefyd Cedrwydden goch, o bwysigrwydd i’r bobl brodorol, i greu rhaffau, dillad, canŵs, basgedi a pholion totem.[3] Mae’n rhan o Barc Taleithiol MacMillan.