Castell Oxwich
Math | castell, maenordy wedi'i amddiffyn, safle archaeolegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Oxwich |
Sir | Sir Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 65.8 metr |
Cyfesurynnau | 51.555508°N 4.168294°W |
Rheolir gan | Cadw |
Arddull pensaernïol | Tuduriaid |
Perchnogaeth | Cadw, teulu Mansel |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | GM043 |
Castell rhestredig Gradd I wedi'i leoli ar bentir coediog yn edrych dros Fae Oxwich ar Benrhyn Gŵyr, Sir Abertawe, yw Castell Oxwich.
Er ei fod yn bosib fod y castell wedi ei adeiladu ar safle adeilad llawer hŷn, mae'r castell fel y mae heddiw yn enghraifft o blasdy Tuduraidd crand a adeiladwyd ar arddull cwrtiau. Fe'i adeiladwyd yn y 16g gan Syr Rice Mansel er mwyn darparu llety moethus. Rhoddodd arfbais teuluol i'r castell ynghyd â ffug-borth milwrol. Gwelwyd gwaith Syr Rice yn y bloc deheuol yn unig a chwblhawyd y gwaith rhwng y 1520au a'r 30au. Pan fu farw Mansel, etifeddodd ei fab, Syr Edward Mansel yr adeilad a rhwng 1560-80 creodd adeilad llawer crandach gyda neuadd fawr ac oriel hir, a oedd yn nodwedd ffasiynol iawn ym mhensaernïaeth Oes Elizabeth. Mae'r tŵr chwe llawr i'r de-ddwyrain wedi goroesi tan heddiw a chredir yr arferai ddarparu llety i'r teulu a'r gweision. Pan adawodd y Mansels yn ystod y 1630au, adfeiliodd yr adeilad a defnyddiwyd rhan ddeheuol yr adeilad fel ffermdy.
Bellach mae'r adeilad yng ngofal Cadw.