Canser
Enghraifft o: | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | disease of cellular proliferation, neoplasm, tiwmor, clefyd |
Y gwrthwyneb | neoplasm diniwed |
Label brodorol | καρκῐ́νος |
Enw brodorol | καρκῐ́νος |
Mae canser neu canser yn grŵp o heintiau ble mae celloedd yn ymosodol (yn tyfu a rhannu yn rhy sydyn a chryf nes mynd yn rhemp drwy'r corff gan ymosod arno). Yn aml, gall chwalu drwy'r corff, drwy gyfrwng y lymff neu'r gwaed. Tyfu, ymosod a chwalu; dyma'r nodweddion sy'n eu gwahaniaethu oddi wrth y tiwmor. Gall rhai mathau o ganser greu tiwmor, ac eraill megis liwcemia yn peidio a gwneud hynny.
Y gangen honno o feddygaeth sy'n astudio, gwneud diagnosis, trin ac atal canser ydyw oncoleg.
Canser mewn oedolion
[golygu | golygu cod]Mae'r ystadegau a restrir isod ar gyfer oedolion yn yr Unol Daleithiau:
Dynion | Merched | |||
---|---|---|---|---|
mwyaf cyffredin (yn ôl nifer o achosion) | mwyaf cyffredin (yn ôl marwolaeth) | mwyaf cyffredin (yn ôl nifer o achosion) | mwyaf cyffredin (yn ôl marwolaeth) | |
canser y brostad (33%) | canser yr ysgyfaint (31%) | canser y fron (32%) | canser yr ysgyfaint (27%) | |
canser yr ysgyfaint (13%) | canser y brostad (10%) | canser yr ysgyfaint (12%) | canser y fron (15%) | |
canser colorectaidd (10%) | canser colorectaidd (10%) | canser colorectaidd (11%) | canser colorectaidd (10%) | |
canser y bledren (7%) | canser y pancreas (5%) | canser endometriaidd (6%) | canser ofaraidd (6%) | |
melanoma croenol (5%) | liwcemia (4%) | lymffoma ddi-Hodgkin (4%) | canser y pancreas (6%) |
Canser mewn plant
[golygu | golygu cod]Peth gymharol brin ydyw canser mewn plant a glasoed: dim ond 150 achos ym mhob miliwn o blant. Dengys ystadegau'r 'National Cancer Institute' sydd wedi'i sefydlu yn UDA, fod yr achosion o ganser mewn plant wedi cynyddu bron i 20% rhwng 1975 a 1990, yn bennaf oherwydd y cynnydd mewn achosion o liwcemia. Ers 1990, mae'r niferoedd wedi lleihau ychydig.[1]
Mae'r plant sy'n byw ger atomfeydd niwclear yn fwy tebygol o gael canser.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Awduron: James G. Gurney, Malcolm A. Smith, Julie A. Ross (1999) Cancer Incidence and Survival among Children and Adolescents, United States SEER program 1975-1995, Cancer Statistics Branch, National Cancer Institute, a geir ar y wefan: SEER web site
- ↑ Reasonable Doubt: Children living near nuclear facilities face an increased risk of cancer.