Canlyniadaeth
Gwedd
Math | ethical theory |
---|---|
Y gwrthwyneb | Dyletswyddeg |
Prif bwnc | moeseg |
Dosbarth o ddamcaniaethau moesegol normadol yw canlyniadaeth[1] sydd yn dal taw canlyniadau sydd yn pennu gwerthoedd moesol. Defnyddiolaeth yw'r ddamcaniaeth ganlyniadol amlycaf. Gwelir ei gwreiddiau yn syniadaeth yr Epiciwriaid a gwaith Francis Hutcheson a Joseph Priestley. Gellir ei leoli yn rhan o'r traddodiad pleseryddol (neu hedonaidd). Jeremy Bentham a John Stuart Mill yw'r ddau Sais a gydnabyddir yn arloeswyr defnyddiolaeth, sy'n hyrwyddo'r lles cyffredin. Yn yr 20g datblygodd G. E. Moore ffurf ar ganlyniadaeth o'r enw "defnyddiolaeth ddelfrydol", sydd yn cydnabod harddwch a chyfeillgarwch ar y cyd â phleser.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Canlyniadaeth", Y Termiadur Addysg. Adalwyd ar 31 Mawrth 2018.