Neidio i'r cynnwys

Cangues d'Onís

Oddi ar Wicipedia

Ardal weinyddol (neu concejo) yng nghymuned ymreolaethol Astwrias yw Cangues d'Onís (Sbaeneg: Cangas de Onís). Prifddinas yr ardal hon yw tref o'r un enw. Hyd at 774, Cangas de Onís oedd prifddinas Teyrnas Astwrias, hefyd.

Mae mwy na saith deg cilometr sgwâr o'r concejo yn rhan o Barc Cenedlaethol de los Picos de Europa. Yn y parc mae pentref Covadonga, lle bu Brwydr Covadonga oddeutu 722, y fuddugoliaeth fawr gyntaf gan fyddin milwrol, Cristnogol yn Iberia ar ôl y goncwest Islamaidd, yn nodi pwynt cychwyn y Reconquista.

Dyma'r fan lle codwyd yr eglwys gyntaf a adeiladwyd wedi'r goncwest, sef Santa Cruz de Cangas de Onis (737), a adeiladwyd ar gromlech hynafol.

Geirdarddiaad

[golygu | golygu cod]

Mae'n fwy na phosib i enw'r dref darddu o'r term Fisigotheg "kuningaz ðeowan is", sef "mae'r brenin yn absoliwt".

Plwyfi

[golygu | golygu cod]

Ceir 13 plwyf (neu Parroquies), oddi fewn i Cangues d'Onís:

  • Abamia
  • Cangues d'Onís
  • Cuadonga
  • Llabra
  • Margolles
  • Mestas de Con
  • La Riera
  • Samartín de Grazanes
  • Triongu
  • Villanueva
  • Zardón


  1. "Asturias: población por municipios y sexo". Cyrchwyd 6 Ionawr 2018.