C.P.D. Tref Y Fflint Unedig
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Tref Y Fflint Unedig | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) | Y Gwŷr Sidan (The Silkmen) | ||
Sefydlwyd | 1886 | ||
Maes | Cae y Castell | ||
Cynghrair | Cynghrair Undebol | ||
2023-24 | 2. (Cymru North) | ||
|
Clwb pêl-droed o dref Y Fflint, Sir Y Fflint yw Clwb Pêl-droed Tref Y Fflint Unedig (Saesneg: Flint Town United Football Club) sy'n chwarae yng Nghynghrair Undebol Huws Gray, sef prif adran gogledd Cymru ac ail reng pyramid pêl-droed cenedlaethol Cymru.
Ffurfwyd y clwb yn 1886 fel C.P.D. Y Fflint[1] ac maent yn chwarae eu gemau cartref ar Cae y Castell. Niall McGuiness yw rheolwr y clwb.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ffurfiwyd C.P.D. Y Fflint ym 1886[1] gyda'r clwb yn cyrraedd rownd derfynol y Cwpan Amatur ym 1890-91 cyn colli yn erbyn C.P.D. Fictoria Wrecsam[2]. Llwyddodd Y Fflint hefyd i ddod yn aelodau gwreiddiol Cynghrair Arfordir Gogledd Cymru ac ennill y bencampwriaeth cyntaf un ym 1893-94[3][4].
Ym 1905, unodd tri o glybiau'r dref; Flint Town, Flint Athletic a Flint United Alkali Company i greu C.P.D. Tref Y Fflint (Saesneg: Flint Town Footbal Club) a sicrhawyd eu llwyddiant cyntaf yn rownd derfynol Cwpan Amatur Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru ym 1909-10 pan drechwyd Pwllheli o gôl i ddim.[5] a llwyddodd y clwb i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru ym 1924-25 cyn colli yn erbyn Wrecsam[6].
Wedi'r Ail Ryfel Byd unodd C.P.D Tref Y Fflint gyda chlwb newydd o'r enw C.P.D. Athletic Y Fflint, oedd wedi bod yn chwarae yng Nghynghrair Dyserth[1], o dan yr enw C.P.D. Tref Y Fflint Unedig. Llwyddodd y clwb newydd i ennill Cwpan Amatur Cymru ym 1947-48[2] cyn ymuno â Chynghrair Cymru (Y Gogledd) ym 1949-50[7].
Daeth oes aur y clwb yn ystod y 1950au wrth i gyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, Billy Hughes arwain y tîm i fuddugoliaeth dros Gaer yn rownd derfynol Cwpan Cymru o flaen torf o 15,584 ar Y Cae Ras[8].
Erbyn diwedd y 1960au roedd y clwb wedi disgyn i chwarae mewn cynghreiriau lleol a bu rhaid disgwyl tan 1988-89 am unrhyw lwyddiant pan enillodd y clwb Gynghrair Undebol y Gogledd[9]. Cafwyd gwahoddiad i fod yn rhan o gynghrair newydd y Gynghrair Undebol ar gyfer tymor 1990-91[10] gan ddod yn bencampwyr cyntaf y gynghrair newydd[11].
Ar ddiwedd tymor 1990-91 cafwyd gêm rhwng pencampwyr y Gynghrair Undebol a phencampwyr Cynghrair Cymru (Y De) er mwyn penderfynu pencampwyr Cymru. Llwyddodd Y Fflint i drechu Y Fenni i ddod yn bencampwyr cyntaf Cymru.[12]. Yn 1992 cafodd y clwb wahoddiad i fod yn un o'r 20 clwb yn nhymor cyntaf Uwch Gynghrair Cymru gan orffen y tymor cyntaf yn yr 16eg safle[13] cyn colli eu lle ym mhrif adran Cymru ar ddiwedd tymor 1997-98[14].
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Cwpan Cymru: 1
- Enillwyr: 1953-54
- Cyrraedd y Rownd Derfynol: 1924-25
- Cwpan Amatur Cymru: 1
- Enillwyr: 1947-48
- Cyrraedd y Rownd Derfynol: 1890-91, 1939-40
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Profile:Flint Town United". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-13. Cyrchwyd 2015-07-08. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ 2.0 2.1 "Welsh Amateur Cup Results". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-16. Cyrchwyd 2015-07-08. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "North Wales Coast League History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-05. Cyrchwyd 2018-11-26. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "North Wales Coast League: 1893-94". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ Davies, Gareth M. (1994). A Coast of Soccer Memories 1894-994. t. 313. ISBN 0-9524950-0-7.
- ↑ "Welsh Cup Final 1924-25". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh League (North): 1949-50". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh Cup Final: 1953-54". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh Alliance: 1988-89". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Cymru Alliance History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 2018-11-26. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Cymru Alliance: 1990-91". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Cymru Alliance 1990-91". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2015-07-16. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Teithio'r Tymhorau: 1992-93". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh Tables 1997-98". Unknown parameter
|published=
ignored (help)
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]Cynghrair Undebol, 2018-19 | ||
---|---|---|
Airbus UK |
Bangor |
Bwcle |
Cegidfa |
Conwy |
Dinbych |
Gresffordd |
Hotspur Caergybi | |