Broch Mousa
Gwedd
Math | Broch |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Shetland |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 59.99528°N 1.182061°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Broch ar ynys Mousa yn ynysoedd Shetland yw Broch Mousa. Mae'n nodedig fel yr esiampl mwyaf cyflawn o froch sydd wedi goroesi.
Saif y broch ger y traeth ar Mousa, ynys fechan sydd bellach heb boblogaeth. Mae'n 13 medr o uchder, gyda grisiau tu mewn yn arwain i gerddedfa ar ben y broch. Musa yw'r unig froch lle mae'r rhan uchaf wedi ei gadw.
Credir i'r broch gael ei adeiladu tua 100 CC. Mae'r muriau o drwch anarferol, ac mae nifer sylweddol o'r Pedryn drycin yn awr yn nythu tu mewn iddynt.